Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Genedlaethol Atal Codymau: Pump o gynghorion doeth os ydych chi'n poeni am gael codwm

23/09/2024

Bydd un o bob tri o bobl dros 65 mlwydd oed yn cael codwm bob blwyddyn, ac mae hynny'n un o bob dau yn achos pobl sy'n 80 mlwydd oed neu'n hŷn. Os bydd pobl hyn yn cael codymau, gall hynny achosi toresgyrn, briwiau, archollion ac anafiadau i'r pen.

Yn ôl Age UK, toriadau clun yw’r rheswm mwyaf cyffredin sy'n golygu bod angen anesthetig brys a llawdriniaethau ar bobl hŷn, a dyma achos mwyaf cyffredin marwolaeth yn sgil damweiniau.

Felly beth allwch chi ei wneud i'ch atal chi eich hun neu i atal un o'ch anwyliaid rhag cael codwm?

Dyma gynghorion doeth gan Joanne Davies, Arweinydd Atal Codymau yn Ardal y Dwyrain ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

  1. Esgidiau sy'n ffitio'n iawn - i'w defnyddio yn y tŷ ac oddi allan iddo. Gall gwisgo esgidiau sy'n ffitio'n iawn a chael gofal traed rheolaidd helpu i atal codymau. Mae esgidiau sy'n gysylltiedig â risg uwch o gael codymau yn cynnwys rhai sydd â sodlau uchel neu gul, esgidiau llac sydd heb gareiau, strapiau neu fyclau, ac esgidiau â gwadnau llyfn.
  2. Ewch i gael profi'r golwg a'r clyw yn rheolaidd i wella eich ymwybyddiaeth ofodol - trwy gael profion rheolaidd ar y golwg, gellir canfod cyflyrau a allai waethygu'r risg o gael codwm. Gall newidiadau yn y clyw effeithio ar y system sy'n rheoli'r cydbwysedd yn eich clust fewnol, ac yn sgil hynny, gallech fod yn fwy tebygol o gael codwm. Mae'n bwysig hysbysu meddyg teulu am unrhyw broblemau â'r clyw.
  3. Cliriwch neu atgyweiriwch beryglon a all achosi i chi faglu yn eich cartref - cadw eich cartref yn lân a thaclus yw'r dull hawsaf i atal codymau. Cliriwch unrhyw annibendod, yn enwedig o gynteddau neu oddi ar risiau. Weithiau, gall pethau sydd wedi'u gosod yn y cartref gyfrannu at godymau (e.e. rygiau neu garpedi sydd wedi dod o'u lle), a gall hynny achosi poen cefn ac anafiadau eraill.
  4. Gwiriwch eich meddyginiaethau - gall rhai meddyginiaethau ostwng lefel pwysedd eich gwaed, ac yn sgil hynny, gallech deimlo'n chwil neu'n benysgafn os byddwch yn codi ar eich sefyll yn rhy gyflym, a gallech golli ymwybyddiaeth neu gael codymau peryglus yn sgil hynny. Os ydych chi'n profi'r symptomau hyn, holwch eich meddyg am eich meddyginiaethau presennol a gofynnwch a allent fod yn cyfrannu at hyn.
  5. Iechyd yr esgyrn - mae hyn yn hanfodol oherwydd mae Osteoporosis yn effeithio ar un ddynes o bob dwy, ac un dyn o bob pump. Mae Osteoporosis yn gyflwr iechyd sy'n gwanhau'r esgyrn, ac yn sgil hynny, byddant yn fregus ac yn fwy tebygol o dorri. Bydd y cyflwr yn datblygu'n raddol dros sawl blwydd, ac yn aml iawn, ni chaiff ei ddiagnosio nes bydd codwm neu wrthdrawiad disymwth yn achosi torasgwrn.

Mae cynghorion syml i helpu i sicrhau bod yr esgyrn yn iach yn cynnwys bwyta digon o brotein i helpu i gryfhau'r cyhyrau, bwyta digonedd o fwydydd sy'n cynnwys llawer o galsiwm, a chymryd fitamin D i helpu i amsugno'r calsiwm.

Mae Cymdeithas Frenhinol Osteoporosis yn cynnig llawer iawn o wybodaeth ac maent yn cynnig gwiriwr risg Osteoporosis – felly ewch ati i gael eich archwilio heddiw.

Gwyliwch Joanne yn trafod y cynghorion hyn yma ac esbonio pam mae'n bwysig eu dilyn: