21/08/2024
Mae Ysbyty Maelor Wrecsam wedi agor campfa newydd o’r radd flaenaf ar gyfer ei chleifion canser sy’n cael llawdriniaeth fawr.
Bydd yr uned newydd yn fodd o sicrhau bod cleifion yn ddigon ffit i gael eu llawdriniaeth fawr, a fydd yn helpu i leihau'r risg o gymhlethdodau, yn gwella eu hadferiad ac yn cynorthwyo cleifion i fynd adref yn gynharach wedi’r llawdriniaeth.
Mae tîm o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn cynnwys anesthetyddion, ffisiotherapyddion, ffisiolegwyr ymarfer corff, deietegwyr, therapyddion galwedigaethol a ffisiolegwyr anadlol i gyd yn ymwneud â chynllunio a goruchwylio rhaglen bwrpasol ar gyfer pob claf.
Dywedodd Dr Neil Agnew, Anesthetydd Ymgynghorol: “Mae derbyn llawdriniaeth fawr yn gofyn llawer yn gorfforol, yn faethol ac yn seicolegol. Mae ymchwil yn dangos bod cleifion oedrannus nad ydynt yn abl yn gorfforol, yn ogystal â chyflwr maethol gwael yn wynebu risg llawer uwch o gymhlethdodau ar ôl llawdriniaeth fawr.
“Mae cleifion sy’n derbyn llawdriniaeth fawr i drechu canser yn wynebu gofynion ychwanegol gan fod eu triniaeth lawfeddygol yn aml yn cael ei chyfuno â chemotherapi a radiotherapi.”
Yn 2019, cynhaliodd Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr raglen beilot yn mynd i’r afael ȃ rhagsefydlu, a ddilynodd 50 o gleifion yn paratoi ar gyfer llawdriniaeth fawr i drechu canser yn Wrecsam.
Dangosodd y cynllun peilot fod y cleifion hyn ar gyfartaledd yn gallu cael eu rhyddhau o’r ysbyty yn ôl adref ddau ddiwrnod ynghynt a bod ganddynt hanner cymaint o gymhlethdodau yn dilyn llawdriniaeth o’i gymharu â chleifion nad oedd yn mynychu’r sesiynau rhagsefydlu. Yn ogystal, roedd cleifion yn fwy tebygol o ddilyn ffordd iachach o fyw o’r newydd yn dilyn llawdriniaeth gan wella eu hiechyd yn yr hirdymor.
Ychwanegodd Dr Agnew: “Roedd y cynllun peilot yn llwyddiant gyda chleifion o bob oed, ac roedd pawb wedi mwynhau’r sesiynau’n fawr. Roedd cleifion yn teimlo eu bod wedi'u paratoi'n llawn yn feddyliol ac yn gorfforol. Oherwydd y pandemig, nid oedd modd i ni barhau â’r sesiynau wyneb yn wyneb dan oruchwyliaeth. Yn hytrach, roedd yn rhaid i ni ddibynnu ar gymorth dros y ffôn, ac wrth reswm, nid oedd hynny mor effeithiol. Yna roeddem yn gallu ailgychwyn y gwasanaeth ar raddfa fach gan ddefnyddio'r gampfa ym Mhrifysgol Wrecsam fel cyfleuster dros dro wrth i ni ddatblygu ein huned fwy ein hunain.
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi agor ein Huned Rhagsefydlu newydd a fydd ar gyfer defnydd ein cleifion yn unig. Bydd cynorthwyo cleifion i ddod mor ffit ag y gallant fod cyn y llawdriniaeth yn eu gwneud yn gryfach ac yn gwneud iddyn nhw deimlo’n fwy parod. Byddant yn llai tebygol o ddioddef ȃ chymhlethdodau gan arwain at adferiad cyflymach. Yn ogystal, gyda'r gofod ychwanegol newydd, bellach mae’n bosibl helpu ystod ehangach o gleifion i baratoi ar gyfer eu llawdriniaeth.”
Bydd cleifion sydd wedi’u nodi ar gyfer llawdriniaeth fawr yn cael eu gwahodd i fynychu’r uned rhagsefydlu dair gwaith yr wythnos, yn Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam. Mae eu rhaglen ffitrwydd yn dechrau ychydig wythnosau cyn eu llawdriniaeth ac mae’n cynnwys cymysgedd o ymarferion arferol dan oruchwyliaeth, hyfforddiant ar y cyhyrau anadlol a gwelliannau o ran eu deiet ac iechyd meddwl mewn sesiynau deiet a seicoleg.
Agorodd Carol Shillabeer, Prif Swyddog Gweithredol y Bwrdd Iechyd, a Dyfed Edwards y Cadeirydd yr uned rhagsefydlu’n swyddogol ynghyd â’r cleifion a’u teuluoedd.
Gwahoddwyd un claf blaenorol, Jeremy Norton i ymweld â’r gampfa cyn ei lawdriniaeth canser y coluddyn.
Dywedodd Jeremy, sy’n 66 oed o Frychdyn, Sir y Fflint: “Cefais ddiagnosis o ganser ym mis Rhagfyr, a chefais fy nghyfeirio gan fy llawfeddyg i’r uned rhagsefydlu. Roedd yn gyfnod pan roedd fy mywyd â'i ben i waered i fod yn onest, yn gyfnod o ansicrwydd mawr, felly roeddwn yn teimlo fel bod popeth arall allan o reolaeth. Ond, roedd mynychu’r sesiynau rhagsefydlu yn rhywbeth y gallwn ei reoli, a gwneud rhywbeth i mi fy hun, er mwyn fy helpu i gryfhau a pharatoi ar gyfer y llawdriniaeth.
“Cefais wybod am y broses o fynd i’r gampfa, ac roedd y sesiynau’n cynnwys therapi i ddysgu sut i fwyta'n dda, cysgu'n dda ac anadlu'n iawn. Dechreuais fy sesiynau ddechrau fis Ionawr eleni, yn fuan wedi i mi dderbyn y diagnosis, hyd at fy llawdriniaeth ddiwedd mis Chwefror.
“Mynychais yr uned rhagsefydlu dair gwaith yr wythnos i ddefnyddio’r gampfa, ar gyfer sesiynau tai chi a sesiynau therapi. Yn ogystal, fe wnaethon nhw edrych ar fy holl ystadegau, lefel ffitrwydd, a rhoi ymarferion i mi eu gwneud gartref a rhoi monitor anadlu i mi. Roedd yn gysur mawr gwybod bod fy iechyd yn cael ei asesu o’r dechrau i’r diwedd.
“Roedd mynychu’r sesiynau rhagsefydlu wedi gwneud byd o wahaniaeth i mi. Nid yn unig fe wnaethon nhw roi mwy o gryfder i mi a’m gwneud yn barod ar gyfer y llawdriniaeth, ond hefyd, roedd cyfarfod â rhai cleifion eraill wedi bod o gymorth mawr, i weld beth roedd eraill yn mynd drwyddo. Mae llawer o hiwmor a phositifrwydd yn yr ystafell, ac fe wnaeth i mi deimlo nad fi oedd yr unig un oedd yn dioddef ȃ hyn.
“Roeddwn yn gwybod y po fwyaf o ymdrech y byddwn yn ei roi i hyn, y byddai’r gwaith caled yn talu ar ei ganfed. Roeddwn yn teimlo’n gryfach ac yn hyderus wrth fynd i’r ysbyty am y llawdriniaeth. Roeddwn allan o’r ysbyty wedi 5 diwrnod, ac nid oeddwn yn disgwyl hynny. Roeddwn wedi dychwelyd i’r gwaith ar ôl pedair wythnos, ac rwy’n grediniol mai’r sesiynau rhagsefydlu sydd wrth wraidd hynny. Roedd y cryfder a roddodd i mi wedi helpu'r broses o wella.
“Rwy’n parhau i ddefnyddio’r hyn a ddysgais. Mae'r ymarferion anadlu yn fy helpu i gysgu, rwy'n gwylio beth rwy'n ei fwyta ac mae fy ngorbryder dan reolaeth. Bydd yr hyn rwyf wedi'i ddysgu yn rhan o fy mywyd am byth nawr.”
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch sut y gall cleifion ddechrau eu cyfnod rhagsefydlu eu hunain gyda chanllawiau a chyngor ar gael ar ein gwefan yma.