23 Mehefin 2024
Mae tri o dimau’r Bwrdd Iechyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau mawreddog GIG Cymru eleni.
Mae Tîm y Gymraeg wedi cyrraedd rhestr fer categori Gwobr Gofal Teg GIG Cymru am eu gwaith yn hyrwyddo gwasanaethau dwyieithog ar wardiau’r ysbytai.
Mae eu Cynllun Dewis Iaith yn rhoi offer i helpu staff y GIG i adnabod cleifion ac ymwelwyr y byddai'n well ganddynt gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Wrth gyrraedd gofal cleifion mewnol yn yr ysbytai, gofynnir i gleifion ym mha iaith y byddai'n well ganddynt gyfathrebu. Yna caiff magnedau a sticeri oren eu defnyddio yn nodiadau’r cleifion ac ar fyrddau wrth erchwyn y gwely er mwyn helpu i adnabod pobl y byddai'n well ganddynt siarad Cymraeg.
Dywedodd Eleri Hughes Jones, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon. Rhoddwyd y cynllun ar waith er mwyn cynnig gwasanaethau i gleifion yn eu dewis iaith, ac mae wedi arwain at normaleiddio gofal yn yr iaith briodol ar draws y Bwrdd Iechyd. Mae'n galonogol bod ymdrechion staff i wireddu'r cynllun hwn yn cael eu cydnabod a'u canmol ar lefel genedlaethol.”
Mae’r Llawfeddygon Ymgynghorol Orthopedig, Mr Edwin Jesudason o Ysbyty Gwynedd a Mr Preetham Kodumuri o Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y categori Gwobr Gofal Effeithlon GIG Cymru am eu gwaith yn adleoli mân lawdriniaethau achosion dydd i ardal benodol ar gyfer cleifion allanol yn yr ysbytai.
Mae’r Ystafelloedd Mân Driniaethau wedi helpu i leihau nifer y bobl sy’n aros am lawdriniaethau ar y dwylo, sydd wedi cynyddu’n sylweddol ers pandemig COVID-19.
Dywedodd Mr Preethan Kodumuri, Llawfeddyg Ymgynghorol Orthopedig yn Ysbyty Maelor Wrecsam: “Drwy symud mân lawdriniaethau ar y dwylo y tu allan i'r prif theatrau, rydym wedi llwyddo i gynyddu cynhyrchiant yn y theatrau, gwella boddhad cleifion a chwtogi amseroedd aros yn ein hadran orthopedig. Hoffem ddiolch i Gomisiwn Bevan a'r Ganolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy am eu cymorth.”
Ychwanegodd Mr Edwin Jesudason, Llawfeddyg Ymgynghorol Orthopedig yn Ysbyty Gwynedd: “Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon yn anrhydedd fawr i’n tîm. Mae symud llawdriniaethau allan o amgylchedd y theatr i gyfleuster cleifion allanol yn defnyddio llai o adnoddau, yn lleihau straen ar ein cleifion ac yn gwella cynhyrchiant, heb beryglu diogelwch cleifion. Yn ogystal, wrth symud llawdriniaethau ar y dwylo o’r theatr, rydym wedi gwneud cyfraniad enfawr at leihau’r ôl troed carbon. Mae hyn yn helpu i gwtogi amseroedd aros.”
“Dim ond megis dechrau ar y gwaith tuag at strategaeth ddatgarboneiddio gynhwysfawr ar gyfer gofal llawfeddygol yng Nghymru yw hyn. Hoffwn ddiolch i lawer o gydweithwyr eraill a gyfrannodd at y gwaith pwysig hwn, ac i grwpiau Gwyrdd ein hysbytai lleol am eu cefnogaeth.”
Mae menter ar y cyd rhwng y Bwrdd Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r elusen Ymddiriedolaeth Hepatitis C wedi’u henwebu am y Wobr Diwylliant Tîm GIG Cymru.
Mewn rhaglen yn gynharach eleni, cynigiwyd prawf i gant y cant o garcharorion. Profwyd 90 y cant o ddynion, a dechreuodd 90 y cant o’r rhai a oedd wedi derbyn diagnosis o hepatitis C driniaeth. Gelwir hyn yn ficroddileu, sy’n golygu bod gofynion penodol ar gyfer profi a thrin hepatitis C wedi'u cyflawni mewn amgylchedd penodol (Carchar y Berwyn yn yr achos hwn).
Cyflawnwyd hyn trwy wneud profion rheolaidd, gyda charcharorion yn cael cynnig prawf cyflym o fewn dyddiau o gyrraedd y carchar. O ganlyniad, roedd triniaeth yn cael ei darparu'n gyflym i'r unigolion a oedd ei hangen.
Dywedodd Elizabeth Hurry, Fferyllydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae Hepatitis C yn gwella’n hawdd o fewn 8 i 12 wythnos o dderbyn triniaeth drwy’r geg. Mae’r driniaeth yn atal cymhlethdodau yn y dyfodol, megis sirosis. Am y rheswm hwn rydym yn awyddus i sicrhau bod pob carcharor yn cael y cyfle i gael prawf a chael ei drin lle bo angen.
“Roedd hon yn ymdrech tîm rhagorol gan fferyllwyr, nyrsys, cymheiriaid yr Ymddiriedolaeth Hepatitis C, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chymheiriaid y carchar dan sylw. Carchar y Berwyn yw’r carchar mwyaf yn y DU felly wrth reswm fe gyflwynodd heriau unigryw. Mae’r tîm wedi gweithio’n ddiflino yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn addysgu er mwyn codi ymwybyddiaeth ac i leihau’r stigma, gan brofi a thrin yn defnyddio llwybr symlach. Rydym yn falch iawn ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon.”
Cyhoeddir yr enillwyr yn seremoni Gwobrau GIG Cymru 2024 ar 24 Hydref.