Neidio i'r prif gynnwy

Tad o ogledd Cymru yn dweud sut roedd angen ysgyfaint artiffisial arno i'w helpu i oroesi haint ffliw difrifol

Rhagfyr 4 2024

Mae tad o ogledd Cymru wedi dweud sut y bu’r ffliw bron â’i ladd – a’i fod wedi goroesi dim ond oherwydd bod meddygon yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi ei ruthro i dderbyn cymorth gan ysgyfaint artiffisial a achubodd ei fywyd

Bu’n rhaid rhoi Scott Blackwell mewn coma a’i drosglwyddo i Gaerlŷr i gael gofal arbenigol ar ôl i firws y ffliw arwain at fethiant llwyr ei ysgyfaint. 

Roedd wedi bod yn y gwaith y diwrnod cynt, gyda thyndra yn ei frest a pheswch – ond fe'i canfuwyd yn ddiweddarach gan gydweithiwr maes o law pan oedd wedi disgyn yn erbyn rheiddiadur ac wedi drysu.

Pan gafodd ei asesu yn Adran Achosion Brys Ysbyty Maelor Wrecsam, daeth yn amlwg mai unig obaith Scott oedd peiriant ECMO – neu ocsigeniad drwy bilen allgorfforol, sy'n gweithio fel ysgyfaint allanol i helpu i gadw ocsigen yn llif gwaed y cleifion mwyaf difrifol wael.

Deffrodd Scott yn Nwyrain Canolbarth Lloegr fwy na phythefnos yn ddiweddarach, yn dilyn triniaeth, gan barhau â’i adferiad yn yr Uned Gofal Critigol yn Wrecsam ac ar ward Mason, Ysbyty Maelor Wrecsam. Yn ystod ei salwch, collodd Scott bedair stôn mewn pwysau a bu’n rhaid iddo gael ffisiotherapi dwys cyn y gallai gerdded eto.

Nid oedd Scott, sydd ag asthma, wedi cael ei frechlyn ffliw arferol gan y GIG y flwyddyn honno. Ar y pryd roedd yn 39, a dim ond dwy a hanner oedd ei fab Lennon.

Gall ffliw effeithio ar unrhyw un, ond mae meddygon bellach yn annog pawb sy'n gymwys i gael y brechlyn i sicrhau eu bod yn manteisio ar yr amddiffyniad y mae'n ei gynnig y gaeaf hwn. 

“Roeddwn i’n teimlo’n ofnadwy – rwy’n cofio teimlo fel na allwn anadlu,” meddai Scott, sydd bellach yn 44. “Roedd yn teimlo fel fy mod yn anadlu trwy un ffroen a bod rhywun yn gwthio'r llall ynghau hefyd.

“Dw i’n grêt erbyn hyn – ond dwywaith tra roeddwn i yn yr ysbyty fe wnaethon nhw ffonio fy nheulu i ddod i mewn, rhag ofn mai dyna oedd y diwedd. Rwy'n meddwl eu bod wedi eu heffeithio’n fawr oherwydd difrifoldeb y sefyllfa. 

“Mae’n ddychrynllyd pa mor gyflym y gall rhywbeth fel ffliw gael gafael, a gall fod bron yn rhy hwyr i’w reoli pan fydd hynny’n digwydd. Yn sydyn, mae tîm argyfwng o'ch cwmpas, ac mae'ch teulu'n cael eu galw i mewn."

Mae Scott, o Wrecsam, yn cael ei asesu ar hyn o bryd gan staff yng nghlinig cof Maelor, ond mae’n dweud ei fod yn ffodus nad yw wedi profi unrhyw effeithiau parhaol yn dilyn ei salwch. Cymerodd 10 mis iddo wella cyn medru dychwelyd i'w waith fel peiriannydd mecanyddol, ond mae bellach yn gwbl ffit i chwarae gyda Lennon, sy'n caru pêl-droed, ac i fwynhau pysgota unwaith eto. 

Mae ystadegau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod pobl ag asthma a chyflyrau anadlol eraill saith gwaith yn fwy tebygol o farw o haint ffliw difrifol, a’u bod yn wynebu risg uwch o COVID-19 hefyd. Oherwydd eu bod yn fwy agored i firysau'r gaeaf, mae pobl ag ystod eang o gyflyrau iechyd sylfaenol – gan gynnwys diabetes, a chlefyd y galon, yr iau a'r arennau - neu sydd â system imiwnedd wannach, yn gymwys i gael brechlynnau i'w hamddiffyn rhag ffliw a COVID- 19. Mae pawb sy’n 65 oed a throsodd hefyd yn gymwys, tra bod plant rhwng dwy ac un ar bymtheg oed yn cael cynnig brechlyn ffliw drwy chwistrell trwyn di-boen.

Gall y brechlynnau atal mwy o bobl sy’n agored i niwed rhag cael y ffliw a COVID-19, allant leddfu difrifoldeb y symptomau os ydynt yn mynd yn sal, a helpu i leihau effaith y firysau sy'n cylchredeg yn y gymuned. 

Cânt eu cynnig gan feddygfeydd teulu, fferyllfeydd cymunedol, canolfannau brechu’r byrddau iechyd a’n timau nyrsio ac imiwneiddio mewn ysgolion. 

Anogodd Dr Stephen Kelly, ymgynghorydd meddygol mewn meddygaeth anadlol yn ysbyty Maelor Wrecsam, bawb sy'n gymwys i gael brechlynnau ffliw a COVID-19 i'w cymryd. 

“Mae stori Scott yn dangos na allwch chi byth ragweld pa mor ddifrifol y bydd haint difrifol fel ffliw yn effeithio arnoch chi neu’ch anwyliaid,” meddai. 

“Y ffordd orau o leihau eich risg"

“Y ffordd orau o leihau eich risg o firysau’r gaeaf fel ffliw a COVID-19 yw manteisio ar y cynnig i dderbyn brechlyn os ydych chi’n gymwys. Mae'r brechlynnau sy'n cael eu cynnig yn rhoi'r amddiffyniad gorau posibl y gaeaf hwn – ac mae'n bwysig eich bod chi'n cael eich brechu er mwyn cynyddu'ch amddiffyniad bob blwyddyn pan fyddwch chi'n cael eich gwahodd i wneud.

“Gallwch hefyd helpu i amddiffyn cymunedau ar draws Gogledd Cymru drwy osgoi trosglwyddo salwch i eraill os byddwch yn mynd yn sâl. Os oes gennych chi symptomau firws neu anhwylder y gaeaf, arhoswch draw oddi wrth eraill nes eich bod chi'n teimlo'n well – yn enwedig pobl a allai fod yn fwy agored i niwed. Bydd gwneud yn siŵr eich bod yn gorchuddio'ch ceg pan fyddwch chi'n pesychu neu'n tisian, yn golchi'ch dwylo'n rheolaidd ac yn cael gwared ar hancesi papur sydd wedi'u defnyddio hefyd yn helpu i atal salwch rhag lledaenu. 

“Gall camau syml fel y rhain helpu i’ch atal chi, eich anwyliaid a phobl eraill yn eich cymuned rhag mynd yn sâl, ac o bosibl yn ddifrifol wael.”

Mae canllawiau ar symptomau ffliw a thriniaeth ar gael gan GIG 111 Cymru.

Mae manylion llawn cymhwysedd ar gyfer brechlynnau rhag y ffliw a COVID-19 a sut y gallwch chi neu'ch anwyliaid yng Ngogledd Cymru eu derbyn ar gael yma.
 

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

🔵 Cewch y newyddion diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy gofrestru ar ein rhestr bostio.