Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect y Pabi Tal yn helpu cleifion dementia i ail-fyw profiadau plentyndod

19.12.2024

Mae trefnwyr prosiect natur calonogol a anogodd blant ysgol gynradd leol i ryngweithio â chleifion dementia mewn ysbyty cymunedol yn gobeithio canfod cyllid i ehangu'r cynllun.

Fe wnaeth Prosiect y Pabi Tal baru disgyblion wedi'u dewis yn benodol o Ysgol Maes Y Felin Treffynnon â chleifion yn Wardiau Ffynnon Ysbyty Cymuned Treffynnon. Fel rhan o'r prosiect, fe wnaeth plant Blwyddyn 5 gydweithio â'u cyd-ddisgyblion mwy profiadol wrth gyfranogi mewn prosiectau crefftau a thrafodaeth - a chyfleoedd i archwilio'r byd naturiol.

Datblygwyd y syniad gan Isa Lamb, Prif Weithredwr menter gymdeithasol King’s Garden, a Rebecca McConnell, rheolwr Ward Ffynnon B. Daeth cymorth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ben ym mis Tachwedd, ond maent yn gobeithio y gall y prosiect ddychwelyd i'r ysbyty.

Fe wnaeth Oliver, disgybl 10 mlwydd oed yn Ysgol Maes Y Felin, esbonio pam y gwnaeth fwynhau'r sesiynau. Dywedodd Oliver: “Roeddwn i'n hoffi'r gweithgareddau celf a chael dysgu am y gwahanol bynciau. Roeddwn yn hoffi sgwrsio â'r cleifion oherwydd mae hynny'n weithred garedig ac maen nhw'n garedig atom ni hefyd. Maen nhw'n hyfryd.

“Byddan nhw'n dweud llawer o bethau. Byddan nhw weithiau yn sgwrsio am bêl-droed ac rwy'n hoffi pêl-droed - rwy'n cefnogi Lerpwl. Mae'n brofiad difyr iawn.”

Darllenwch fwy: Mwy o bobl, yn fwy actif, yn fwy aml – sut mae'n rhaid i Ogledd Cymru gydweithio i fynd i'r afael ag 'argyfwng anweithgarwch' - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae Katie Worth, gweithiwr lles cleifion dementia yn yr ysbyty, yn ymdebygu i un o gyflwynwyr Blue Peter yn sgil ein hymdrechion i lunio prosiectau celf y gall yr ifanc a'r henoed gyfranogi ynddynt,  Esboniodd hi beth mae'r sesiynau yn ei gynnig i'w chleifion.

“Mae gennym gleifion tawedog,” meddai. “Ond pan ddaw'r plant yma, bydd y cleifion tawedog hyn yn bywiogi. Mae galluogi plant i fod o gwmpas pobl sydd â dementia yn eu helpu hwy, ac yn sgil hynny, nid yw'r cyflwr yn teimlo'n rhywbeth mor arswydus.”

Fe wnaeth Bethan Martin, un o athrawon Ysgol Maes Y Felin, esbonio beth yw buddion y sesiynau i'r plant a'r cleifion, wrth inni ddysgu bod gan dwrch daear 44 o ddannedd (rhyfeddai'r ieuenctid a'r henoed wrth glywed hynny). Os na wyddoch chi, mae ganddynt ddau yn fwy na llwynog.

Dywedodd hi: “Fel y gwelwch chi, bydd y plant yn elwa'n sylweddol o'r sesiynau hyn a byddan nhw'n helpu'r cleifion. Fodd bynnag, byddan nhw'n dysgu cymaint ganddyn nhw – mae'n hyfryd gweld hynny'n digwydd.”

Darllenwch fwy: Golwg Nadoligaidd yn ôl ar 2024 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cynhaliwyd y cynllun rhwng mis Ionawr a diwedd Tachwedd, ac fel rhan o'r gweithgareddau, cafodd y plant a'r cleifion gyfleoedd i fynd allan i brofi natur â'u llygaid eu hunain (pan oedd yr amgylchiadau'n caniatáu). Ym mhob sesiwn, ceir thema sy'n ymwneud ag anifail, aderyn neu agwedd ar y byd naturiol.

Wrth i'r grŵp fynd ati i greu modelau 3D trawiadol o dyrchod daear, fe wnaeth Isa Lamb, Prif Weithredwr King’s Garden, esbonio pam mae'r ddau grŵp yn cyd-dynnu mor dda, er gwaethaf y gwahaniaeth sylweddol iawn o ran oedran.

“Mae pawb wrth eu bodd â'r byd naturiol, a dyna pam y mae'n rhywbeth mor unigryw,” esboniodd Isa. “Nid yw ymddiddori ym myd natur a rhyfeddu ato yn dibynnu ar gefndir, diwylliant nac oedran. Mae'n bwnc delfrydol i'w ddefnyddio i ddod â chenedlaethau gwahanol ynghyd, pan gaiff ei gyflwyno yn wybodus, yn fedrus, yn greadigol ac yn frwdfrydig. Byddwn wrth ein bodd yn gweld pawb yn cael cymaint o bleser yn sgil hynny.”

Dywedodd Rebecca McConnell,  Rheolwr Ward Ffynnon B: “Mae'n un o'r sefyllfaoedd calonogol hynny sy'n cynnig rhywbeth buddiol i bawb. Byddwn bob amser yn ceisio meddwl am bethau a all symbylu meddyliau ein cleifion, ac mae hyn yn llwyddo i wneud hynny, heb os. Mae'n hyfryd gweld y gwaith yn digwydd.”

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)