14/11/2024
Yn ystod Mis Hanes Anabledd, mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngogledd Cymru wedi lansio Panel Mynediad fel rhan o fenter dwy flynedd i hyrwyddo cynhwysiant a hygyrchedd mewn mannau cyhoeddus gan gynnwys ysbytai, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol ac eraill.
Mae Panel Mynediad Gogledd Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau trydydd sector a chaiff ei ariannu gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gydag arian ychwanegol o Gronfa Cydlyniant Cymunedol Gogledd Orllewin Cymru. Bydd aelodau'r panel yn cael hyfforddiant i gynnal arolygon mynediad mewn mannau cyhoeddus yn effeithiol a darparu adroddiadau adborth i sicrhau hygyrchedd lleoliadau a gwasanaethau.
Arweinir y panel gan Sarah Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr y Ganolfan Arwyddo Golwg Sain, a bydd y tua 40 aelod yn gynrychiolwyr sefydliadau trydydd sector ar draws Gogledd Cymru; byddant yn derbyn hyfforddiant a gwybodaeth y gellir eu defnyddio i lywio eu gwaith a’u polisïau cynhwysiant a hygyrchedd eu hunain.
“Mae hwn yn gyfle anhygoel i fudiadau trydydd sector ac yn bwysicach, pobl â phrofiad bywyd, i rannu gwybodaeth a chael dylanwad ar hygyrchedd mewn mannau cyhoeddus” meddai Sarah. “Mae'n wych bod mynediad at wybodaeth yn cael ei gynnwys gan ei fod yn aml yn cael ei anghofio.”
“Rwy’n edrych ymlaen i weithio gyda thîm amrywiol o bobl i gefnogi gwasanaethau statudol a sefydliadau eraill i sicrhau bod eu gwasanaethau’n hygyrch i bawb.”
Mae’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael eu cefnogi gan y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru a sefydliadau sector cyhoeddus gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n cefnogi cynllunio a gweithredu’r fenter fel rhan o’u Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
Dywedodd Dyfed Jones, Aelod Annibynnol o’r Bwrdd Iechyd: “Mae hwn yn ddull cyffrous o weithio gyda sefydliadau trydydd sector yn ogystal â mannau cyhoeddus ar draws Gogledd Cymru. Gall hyn olygu sicrhau bod canolfannau hamdden yn gwbl gynhwysol a hygyrch sy’n grymuso pobl i reoli eu hiechyd yn rhagweithiol, neu sicrhau bod llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol yn gwbl gynhwysol a hygyrch, gan sicrhau bod pobl yn gallu cael cymorth i gael cyflogaeth, addysg a hyfforddiant.”
Dywedodd Jan Underwood, Cadeirydd Grŵp Mynediad Arfon, sy’n ymgyrchu dros fynediad i’r anabl, “Mae Grŵp Mynediad Arfon yn croesawu menter Panel Mynediad Gogledd i greu panel cynhwysol a fydd yn goruchwylio materion yn ymwneud â hygyrchedd mewn safleoedd a lleoliadau sector cyhoeddus.
“Nod y prosiect arloesol hwn yw gwneud y gymuned anabl yn ganolbwynt, gan ganiatáu profiad bywyd i arwain hygyrchedd sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, fel yr addawyd yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Mae’n hollbwysig bod pobl anabl Gogledd Cymru yn cymryd yr awennau o ran asesu a llywio hygyrchedd a chynwysoldeb mannau cyhoeddus, er mwyn sicrhau ein cyfranogiad llawn mewn cymdeithas, heb y rhwystrau yr ydym mor aml yn eu hwynebu.
Dywedodd Jan Thomas, Prif Swyddog Canolfan Byw’n Annibynnol FDF: “Rydym wrth ein bodd i gael ein gwahodd i fod yn rhan o Banel Mynediad newydd Gogledd Cymru. Fel yr unig Ganolfan Byw’n Annibynnol yng Ngogledd Cymru sy’n gweithio ar draws y chwe sir, rydym yn ymwybodol iawn o’r heriau y mae pobl anabl yn eu profi wrth geisio byw’n annibynnol.
“Dim ond pobl anabl sydd â phrofiad gwirioneddol o fywyd all wneud sylwadau a dylanwadu ar fynediad i'r amgylchedd y maent yn byw ynddo. Mae gan bobl anabl hawl nid yn unig i fyw ond hefyd i gael bywyd sy'n gwbl gynhwysol waeth beth fo'u nam.
“Llongyfarchiadau i’r Bwrdd Iechyd, y Ganolfan Arwyddo Golwg Sain ac Anabledd Cymru am ddod â’r prosiect hwn at ei gilydd er budd pawb.”
Mae gan y panel amrywiaeth o offer archwilio i gynnwys anabledd, iaith, hil a chymhwysedd diwylliannol, cynhwysiant LHDTC+ ac oedran, a bydd yn cyd-greu ac yn rhannu canllawiau ar gyfer y lleoliadau hyn.
Dywedodd Karen Beattie, ymgyrchydd anabledd annibynnol ar Banel Mynediad newydd Gogledd Cymru: “Yn aml iawn mae penderfyniadau’n cael eu gwneud ar sut i greu amgylchedd cynhwysol gan bobl nad ydyn nhw’n anabl. Mae aelodau panel Gogledd Cymru yn cynnwys pobl anabl sydd â phrofiad bywyd ac yn hyrwyddo’r ethos ‘dim byd amdanom ni hebddon ni.”