Neidio i'r prif gynnwy

Gyrrwr bws ysgol 78 mlwydd oed yn diolch i'r tîm yn Ysbyty Gwynedd am ei helpu'n ôl i'r gwaith ddeufis yn unig ar ôl llawdriniaeth ar ei glun

26 Tachwedd 2024

Mae gyrrwr bws yn ôl y tu ôl i'r llyw ddeufis yn unig ar ôl llawdriniaeth i osod clun newydd, diolch i'r tîm Orthopedig yn Ysbyty Gwynedd.

Cafodd Alun Roberts, 78, ei dderbyn i Ysbyty Gwynedd ym mis Mehefin 2024. Roedd wedi torri asgwrn ei glun ac mewn poen difrifol.

Anafodd Mr Roberts, o Fynytho ym Mhen Llŷn, ei glun wrth symud dodrefn yn ei gartref ym mis Rhagfyr 2023. Yn anffodus, gwaethygodd yr anaf dros y misoedd canlynol.

Dywedodd: “Roeddwn i’n meddwl fy mod i wedi anafu’r cyhyrau. Cefais fy anfon gan fy Meddyg Teulu i gael pelydr-X yn Ysbyty Bryn Beryl ac yna cefais fy nghyfeirio i Ysbyty Gwynedd.

“Fe wnaethon nhw ddarganfod fy mod wedi torri asgwrn a byddai angen i mi gael clun newydd. Pan glywais i hyn, roeddwn i'n meddwl y byddai'n cymryd misoedd i mi wella ac yn sicr, doeddwn i ddim yn disgwyl bod yn ôl yn y gwaith tan y flwyddyn newydd.

“Cefais fy synnu fy mod i'n teimlo mor dda ar ôl y llawdriniaeth a pha mor gyflym roeddwn i’n gallu symud. Ychydig iawn o boen gefais i.”

Cafodd Mr Roberts lawdriniaeth gan y Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol, Mr Muthu Ganapathi, a osododd y glun newydd drwy agor blaen y goes. Dyma’r dull lleiaf ymwthiol o gynnal y math hwn o lawdriniaeth.

Dywedodd: “Mae llawdriniaethau i osod clun newydd ymhlith y triniaethau llawfeddygol Orthopedig mwyaf cyffredin. Yn draddodiadol, fe'u gwneir drwy agor cefn neu ochr y goes. Mae hyn yn golygu torri cyhyrau a thendonau.

“Mae agor blaen y goes yn golygu mynd at gymal y glun mewn modd sydd yn llai ymledol, ac nid oes angen torri tendonau na chyhyrau. Gan fod llai o niwed i'r meinwe meddal, mae llai o boen ac mae'n caniatáu i’r glun wella a gweithio eto, yn gynt.”

Llwyddodd Mr Roberts i gerdded i Nant Gwrtheyrn ac yn ôl yn rhwydd gyda'i wraig lai na deufis ar ôl ei lawdriniaeth ac aeth yn ôl i'w waith mewn da bryd ar gyfer dechrau’r tymor ysgol newydd ym mis Medi.

Ychwanegodd: “Fe hoffwn i ddiolch yn fawr iawn wrth Mr Ganapathi a’r tîm ar Ward Ogwen am y gofal rhagorol rydw i wedi’i dderbyn, roedd yn anhygoel ac ni allaf ddiolch ddigon i bawb.

“Fe hoffwn i hefyd ddiolch i Peter, y Ffisiotherapydd, a roddodd gefnogaeth i mi ar ôl y llawdriniaeth.”

Ychwanegodd Mr Ganapathi: “Dim ond yn ddiweddar rydym ni wedi dechrau defnyddio’r dull hwn i osod clun newydd yn Ysbyty Gwynedd. Mae’n ddull cymharol newydd i ni, ac ar hyn o bryd, dim ond ar gleifion sydd wedi’u dewis yn ofalus yr ydym yn ei ddefnyddio.

“Mae ein hargraffiadau cynnar yn galonogol gyda chleifion fel Mr Roberts, yn gwella’n gynt, nac ar ôl defnyddio dulliau traddodiadol.”

Dywedodd y Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol, Mr Koldo Azura, sydd hefyd wedi dechrau cynnal llawdriniaethau gan ddefnyddio'r dull hwn: “Gyda'r dulliau traddodiadol, mae nifer o gyfyngiadau ar gleifion ar ôl gosod clun newydd, a hynny er mwyn atal yr asgwrn rhag dod o'i le. Gyda’r dull hwn, ychydig iawn o gyfyngiadau sydd ar y cleifion, gan fod y risg o ddadleoli'r asgwrn yn fach iawn.”

Un o flaenoriaethau allweddol y Bwrdd Iechyd yw gwella amseroedd aros am driniaethau ac apwyntiadau ar draws Gogledd Cymru. Er bod defnyddio technegau newydd i wella canlyniadau llawdriniaethau yn ddatblygiad cadarnhaol i'r Bwrdd Iechyd, mae ffocws mawr o hyd ar leihau rhestrau aros yr Adran Orthopedig.

Mae'r gwaith ar y Ganolfan Orthopedig newydd yn Ysbyty Llandudno yn mynd rhagddo’n dda. Disgwylir i’r Ganolfan drawsnewid gwasanaethau orthopedig a gynlluniwyd a darparu 1,900 o driniaethau’r flwyddyn er budd cleifion, staff a chymuned ehangach Gogledd Cymru.

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am  y prosiect hwn yma