Fe wnaeth mwy na 2,000 o bobl roi'r gorau i ysmygu â chymorth y GIG – blwyddyn pan wnaeth nifer fwy nag erioed o bobl roi'r gorau iddi yng Ngogledd Cymru
Yn ôl data gan ein gwasanaeth Helpa Fi i Stopio, fe wnaeth ein cynghorwyr arbenigol cyfeillgar helpu 2,077 o bobl i droi cefn ar dybaco rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024 – mwy nag erioed o'r blaen yn ystod blwyddyn unigol.
Rydym nawr yn annog mwy o bobl i gymryd eu camau cyntaf tuag at roi'r gorau iddi yn ystod mis Hydref eleni.
Mae helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu yn un o flaenoriaethau'r Bwrdd Iechyd oherwydd effeithiau dirfawr tybaco ar iechyd.
Ysmygu yw achos pennaf marwolaethau cynnar a salwch y gellir ei atal o hyd yng Nghymru. Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth ystadegau a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddatgelu mai ysmygu sy'n achos mwy nag un o bob 10 o farwolaethau ymhlith pobl sydd dros 35 mlwydd oed yng Nghymru.
Ond gall rhoi'r gorau i ysmygu gynnig buddion sylweddol o ran iechyd a lles ymhen ychydig oriau ar ôl gwneud hynny, a gall gynnig buddion sylweddol o ran ein ffordd o fyw.
Nid oedd Ian Tomlinson o Wrecsam, un o selogion AC/DC, erioed wedi cael cyfle i weld ei hoff fand yn chwarae'n fyw ond llwyddodd i gyflawni 'pererindod roc' a mynd i un o'u gigs yn Stadiwm Wembley yn ystod yr haf eleni
Dywedodd Ian ei fod wedi gallu mwynhau'r digwyddiad yn arw ar ôl rhoi hwb i lefelau ei egni – a'r pres yn ei boced – ar ôl rhoi'r gorau iddi yn gynharach eleni.
“Fe wnaethom ni dalu am y tocynnau, y gwesty, y bwyd a'r petrol i fynd yno,” meddai. “Ni fyddwn i wedi gallu cael y profiad hwn o gwbl pe bawn i wedi parhau i ysmygu.
“Yn ogystal â mynd i weld y cyngerdd, llwyddais hefyd i sefyll yno gyda fy ngwraig a mwynhau'r cyfan. Ac roedd hithau hefyd yn mwynhau'r ffaith fy mod i'n gallu sefyll yno gyda hi, yn hytrach na gorfod eistedd.
“Fe wnaethom ni sefyll yno am bum awr. Wrth gwrs, nid oeddwn i'n dawnsio fel hogyn ifanc yn ei arddegau, ond roeddwn i'n symud cystal ag y gallwn i, ac ni fuaswn i wedi gallu gwneud hynny'n flaenorol! Mae rhoi'r gorau i ysmygu yn sicrhau bod gennych ddigon o egni a'ch bod yn teimlo'n ddigon brwdfrydig i wneud y pethau rydych wedi dyheu eu gwneud.”
Mae Graham Roberts o Abergele yn teimlo ei fod wedi dianc o garchar sigaréts ar ôl rhoi'r gorau i ysmygu â chymorth gan Helpa Fi i Stopio
“Y buddion pennaf yn sgil rhoi'r gorau i ysmygu, heb os, yw'r buddion o ran eich iechyd, o ran arian, a chael gwared ar yr arogl y mwg – sy'n neilltuol o bwysig pan fyddwch chi'n dweud nos da wrth eich plant,” meddai.
“Yn anad dim, nid wyf i'n gaeth i sigaréts erbyn hyn. A dweud y gwir, rwyf wedi llwyddo i drechu rhywbeth a wnaeth fy llethu i am flynyddoedd lawer.
“Os gallaf i lwyddo i wneud hynny, gall unrhyw un lwyddo. Mae'n dda gwybod fy mod i wedi llwyddo o'r diwedd i drechu rhywbeth yr oeddwn i'n gaeth iddo. Nid wyf i'n gaeth i dybaco erbyn hyn.”
Profwyd fod defnyddio gwasanaethau megis Helpa Fi i Stopio bedair gwaith yn fwy effeithiol na rhoi'r gorau iddi heb gymorth. Mae Helpa Fi i Stopio yn cynnig cymorth cymhellol rhad ac am ddim yn y fan a'r lle neu dros y ffôn gan gynghorydd arbenigol neu mewn fferyllfa leol, ynghyd â nwyddau rhad ac am ddim i helpu i drechu eich awydd am nicotin, e.e. patsys, gwm cnoi neu hylif i'w chwistrellu yn eich ceg.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae ein tîm wedi cydweithio ag ystod eang o bartneriaid i gynnig y gwasanaeth i ragor o bobl, gan gynnwys cleifion yn ein hysbytai a merched beichiog. Hefyd, rydym ar hyn o bryd yn gwerthuso cynllun peilot 12 mis i gynnig talebau siopa i ferched a'u partneriaid am beidio ag ysmygu yn ystod cyfnod y beichiogrwydd a'r misoedd ar ôl geni eu baban.
Yn ôl Dr Jane Moore, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus dros Dro, mae lleihau effaith ysmygu ar iechyd pobl yma yng Ngogledd Cymru yn flaenoriaeth allweddol i'r Bwrdd Iechyd. Mae atal salwch yn un o amcanion pennaf y Bwrdd Iechyd, ac yn ddiweddar, mae ein cynllun tair blynedd newydd wedi tanategu'r amcan hwnnw.
“Mae ysmygwyr yn gwybod bod tybaco yn niweidio eu hiechyd, a bod mwg tybaco yn niweidio iechyd y bobl sy'n agos atynt,” meddai Dr Moore. “Maent yn gwybod bod ysmygu yn arfer drud.
“Rydym yn falch iawn felly y bydd nifer helaeth o ysmygwyr yn troi at ein gwasanaeth arbenigol a rhad ac am ddim, Helpa Fi i Stopia, pan fyddant yn penderfynu ei bod yn bryd iddynt dorri'r cadwynau. Mae pobl fel Ian a Graham yn profi y gall cymorth i roi'r gorau i ysmygu weddnewid bywydau pobl.
“Mae cynghorwyr ein gwasanaeth Helpa Fi i Stopio yn gwybod pa mor anodd yw rhoi'r gorau i ysmygu, ac maent yn gweithio'n galed iawn i gynorthwyo pobl sy'n dymuno rhoi'r gorau iddi a'u cymell i wneud hynny. Mae cymorth ar gael i bawb, yn cynnwys pobl sydd wedi ceisio rhoi'r gorau iddi yn flaenorol - a phobl sydd efallai wedi ailddechrau ysmygu.”
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Helpa Fi i Stopio yng Ngogledd Cymru neu gallwch ofyn i rywun eich ffonio'n ôl i'ch helpu i fynd ati i roi'r gorau i ysmygu yma, neu trwy ffonio 08000 852 219.
🔵 Cewch y newyddion diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy gofrestru ar ein rhestr bostio.