Bydd Val Vickers, sy'n Ymarferydd Nyrsio Brys, ymysg y gweithwyr iechyd proffesiynol ymroddedig sy'n gweithio y Nadolig hwn, yn rhoi gofal hanfodol i gleifion sydd â mân anafiadau yn Ysbyty Cymuned Treffynnon. Mae Val wedi bod yn rhan o'r tîm yn Nhreffynnon ers i'r gwasanaeth ddechrau a bydd yn un o dri ymarferydd sy'n sicrhau bod y gymuned yn derbyn triniaeth brydlon ar Ddydd Nadolig.
"Mae gweithio ar Ddydd Nadolig yn hyfryd", meddai Val. "Mae'n bleser helpu pobl yn y gymuned ac osgoi'r angen iddyn nhw orfod aros am gyfnod hir yn yr Adran Achosion Brys lle bo'n bosib. Fel hynny, gallan nhw droi am adref a threulio Dydd Nadolig gyda'u teuluoedd a'u hanwyliaid, a dyna sy'n bwysig."