Bydd tad a merch yn treulio'r Nadolig yn gofalu am y cleifion gwaelaf yn Ysbyty Gwynedd.
Mae Ferdi a Kate Vitug yn gweithio yn Uned Gofal Dwys yr ysbyty lle byddant yn gweithio eu sifftiau ar 25 Rhagfyr.
Mae Kate wedi bod yn cyflawni rôl Nyrs Staff am chwe mis ac mae ei thad, Ferdi, wedi bod yn gweithio ar yr uned am 22 mlynedd.
Dywedodd: "Byddwn ni fel arfer yn dathlu'r Nadolig ar Noswyl y Nadolig ond bydd yn braf treulio amser gyda'n gilydd ar y diwrnod gwirioneddol ac i'w dreulio gyda'n cydweithwyr."
Ychwanegodd Ferdi: "Rydw i wedi gweithio ar Ddydd Nadolig sawl gwaith dros y blynyddoedd, dyna yw natur y swydd ond rydym ni bob amser yn ceisio sicrhau ei fod yn un arbennig ar Ward Cybi. Rydym ni'n gobeithio mwynhau ychydig o fwyd arbennig ac i ddathlu cymaint â phosibl gyda chydweithwyr wrth i ni barhau i ofalu am ein cleifion."