Mike Peggie – Goruchwyliwr Porthora
Bydd Mike Peggie, sy'n Oruchwyliwr Porthora, yn helpu i sicrhau bod Dydd Nadolig plant yn un arbennig yn Ysbyty Glan Clwyd, eleni.
Mae'n un o lawer o agweddau gwerth chweil ac, weithiau, anodd o sicrhau bod y safle'n parhau i weithredu, tra bydd y gweddill ohonom yn bwyta gormod o dwrci a phwdin Nadolig.
Gyda thros bron i 21 mlynedd o wasanaeth ar gyfer pobl Gogledd Cymru, mae yn aml yn cael sifft ar Ddydd Nadolig - ond nid yw hynny'n poeni dim arno. O leiaf mae'n gweithio o 6am tan 2pm yn unig eleni, felly bydd yn gallu cael cinio Nadolig gyda'i deulu wedi'r cyfan.
Serch hynny, mae helpu i sicrhau bod Dydd Nadolig yn un arbennig i blant sy’n gorfod bod yn yr ysbyty ar y diwrnod mawr, yn ddigon o reswm i ddod i'r gwaith.
"Mae gweithio ar Ddydd Nadolig yn dod â'i wobrwyon ei hun," meddai Mike. "Rydym ni’n gwneud cryn dipyn gyda wardiau'r plant. Felly'n aml iawn bydd un neu ddau o borthorion yn gwisgo fel Siôn Corn a byddwn ni'n mynd yno i ddosbarthu'r anrhegion. Mae'n helpu rhywun i fynd i ysbryd y peth."
Os bydd angen symud unrhyw beth yn yr ysbyty, y porthorion sy’n ei symud. Maen nhw’n gwaredu gwastraff, yn didoli'r post, yn cludo'r rhai sydd wedi marw i'r marwdy, yn symud dodrefn a chyflenwadau, yn danfon cyffuriau i'r fferyllfa a llawer iawn mwy.
Rhyngweithio â chleifion ac ymwelwyr yw'r hyn y mae Mike wir yn ei fwynhau. Fel y mae'n esbonio, porthorion yn aml yw staff y rheng flaen y bydd pobl yn eu gweld pan fyddant yn dod i Ysbyty Glan Clwyd.
Dywedodd: "Rydym ni'n rhoi cyfarwyddiadau i bobl. Rydym ni'n mynd â nhw i apwyntiadau ac yn rhoi tawelwch meddwl iddyn nhw. Rydym ni'n gweld pawb a phopeth. Mae pobl yn ein gweld ni a byddan nhw'n dod atom ni os bydd problem.
"Weithiau, mae 'na gamsyniad ynghylch porthorion gan fod pobl yn ein gweld yn eistedd y tu allan i'r porthdy. Fodd bynnag, nid yw pobl yn gwybod pa dasg y gallai'r porthor hwnnw fod wedi'i gwneud. Weithiau mae angen i chi hel meddyliau a chael coffi. Rydw i'n siarad â'r porthorion newydd ac yn eu paratoi gan fod y swydd yn gallu bod yn anodd weithiau.
"Rydym ni'n mynd â'r rhai sydd wedi marw i'r marwdy ac rydym ni'n delio â'r holl ddigwyddiadau yn yr ysbyty, fel ataliad y galon. Wedyn, byddwch chi'n eistedd, yn hel meddyliau, ac yna bydd yr aelod nesaf o'r cyhoedd yn gofyn cwestiwn i chi ac mae'n rhaid i chi fod yn hapus ac yn llawen unwaith eto."
Er gwaethaf yr agweddau anodd ar y rôl, dywedodd Mike na fyddai'n newid unrhyw beth. Dyna pam, yn yr un ffordd â blynyddoedd blaenorol, y bydd yn ceisio sicrhau bod Dydd Nadolig yn arbennig i'r rhai ifanc a'r hen fel ei gilydd ar y 25ain.