Neidio i'r prif gynnwy

Alexis Parry, Goruchwyliwr Arlwyo

Mae Alexis yn gweithio yn yr adran arlwyo ers 27 mlynedd ac mae hi'n credu mai hwn fydd y 12fed achlysur iddi weithio ar Ddydd Nadolig.


Dywedodd Alexis: "Bydda' i'n gweithio ar y sifft rhwng 10am a 6pm, felly bydda' i'n agor anrhegion gyda'm mab yn y bore ac wedi hynny, fe wna i gerdded i'r gwaith. Bydd yn sifft brysur iawn a byddwn ni'n mynd yn sydyn o frecwast, i ginio a the. Mae'r tîm yn gweithio'n galed iawn yn y cyfnod sy'n arwain at Ddydd Nadolig er mwyn sicrhau bod ein holl staff a'n cleifion yn cael bwyd.


"Fydda' i ddim yn dueddol o fwyta cinio yn ystod fy sifft fel y galla’ i gael fy nghinio Nadolig gyda'm mab gyda'r nos, a bydda' i i ffwrdd tan Nos Galan, er mwyn cael hoe fach."