Neidio i'r prif gynnwy

Alex, y gwyddonydd clinigol sy'n awyddus i ganfod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith

Alex, y gwyddonydd clinigol sy’n awyddus i ganfod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith

Penderfynodd arbenigwr mewn delweddu uwchsain ddilyn ei yrfa yng Ngogledd Cymru oherwydd ei fod yn cynnig y cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith - gyrfa werth chweil a gweithgareddau awyr agored.

Yn ei fywyd bob dydd, mae Alex Damico, Gwyddonydd Fasgwlaidd Clinigol sy’n gweithio ym maes Radioleg yn Ysbyty Gwynedd, yn archwilio’r rhwydweithiau cymhleth o bibellau sy’n cludo gwaed o amgylch ein cyrff.

Ond, yn ei amser hamdden, mae'n cyfnewid yr offer delweddu uwchsain am gamera mwy confensiynol, i fwynhau un o'i lawer o ddiddordebau.

Gan fod Alex yn treulio’i ddyddiau yn y gwaith yn recordio delweddau o’r corff dynol, byddai rhai yn tybio nad yw hyn yn wyliau o’i waith bob dydd, ond mae Alex yr un mor gartrefol yn tynnu lluniau o dirwedd prydferth Gogledd Cymru, yn ogystal â chymryd rhan yn y chwaraeon awyr agored cyffrous sy’n rhan mor annatod o’n rhanbarth ni.

Roedd chwaraeon yn rhan fawr yn ei yrfa academaidd gynnar. Dechreuodd drwy astudio am radd mewn ffisioleg ymarfer corff clinigol ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl. Ond newidiodd un athro arbennig ei ffocws.

Darllenwch ragor: Arbenigwr fasgwlaidd yn codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd y coesau mewn ymgais i gael gwell canlyniadau i gleifion – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Eglurodd Alex: “Mewn gwirionedd, roedd angen i mi benderfynu a oeddwn i eisiau canolbwyntio ar chwaraeon elitaidd neu ar y cyhoedd yn ehangach, gan wella eu hiechyd - ac roeddwn i’n meddwl bod yr olaf yn fwy gwerth chweil.

“Roedd gen i ddarlithydd diddorol iawn ac fe ysgogodd fy niddordeb mewn uwchsain. Mae fy niddordeb yn deillio o hynny ac fe wnes i ddod yn frwd iawn am ddefnyddio dulliau uwchsain.”

Ar ôl cwblhau ei gwrs israddedig, aeth Alex i Brifysgol John Moores, Lerpwl lle astudiodd radd Meistr mewn ffisioleg ymarfer corff. Yna dechreuodd hyfforddi fel gwyddonydd fasgwlaidd clinigol, gan ddilyn cwrs Meistr tair blynedd, rhan-amser, wedi'i ariannu ym Mhrifysgol Newcastle.

“Roedd yn rhaglen hyfforddi hynod o ddiddorol,” meddai Alex. “Roeddwn i'n cael cyflog sylfaenol a hyfforddiant ar yr un pryd.”

Roedd wedi’i leoli yn Ysbyty St Bartholomew yn Llundain am y tair blynedd hynny a bu hefyd yn gweithio am gyfnod yn y Royal Free Hospital yn y brifddinas.

Erbyn hyn, mae Alex yn rhan o’r gwasanaeth diagnostig yn Ysbyty Gwynedd. Mae’n bennaf yn defnyddio uwchsain ac yn mapio pibellau gwaed cleifion sydd â phroblemau â chylchrediad y gwaed. Mae’n rôl hynod fedrus ac yn un sy’n llywio gwaith timau fasgwlaidd ar draws Gogledd Cymru - ond gall fod yn anodd.

Darllenwch ragor: Yr actor James Norton, yn helpu plant i ddysgu am ddiabetes gyda Stori Amser Gwely CBeebies a ysgrifennwyd gan seicolegydd o Wrecsam

Datgelodd Alex: “Un peth cyffredin sy'n ei gwneud hi'n anodd i mi yw calcheiddio yn y pibellau gwaed. Fel arfer byddwch yn gweld lliw glas neu goch mewn sgan uwchsain o bibellau gwaed.

“Pan maent wedi'u calcheiddio'n drwm, sy'n tueddu i ddigwydd mewn cleifion â diabetes neu gleifion â chlefyd atherosglerotig*, dydych chi ddim bob amser yn llwyddo i gael un o'r delweddau hardd hynny.

“Gall hyn ei gwneud yn eithaf anodd paratoi map o'r holl bibellau gwaed, ac mae’n dod yn fwy cyffredin bellach gyda'r cynnydd mewn diabetes a chyd-forbidrwydd (clefydau) eraill.”

*Atherosclerosis yw lle mae rhydwelïau'n culhau, gan ei gwneud hi'n anodd i waed lifo drwyddynt. Caiff ei achosi gan ddyddodion brasterog sy’n casglu. Mae’r pethau y gallwch eu gwneud i leihau’r risg yn cynnwys:

  • Peidio ag ysmygu
  • Rheoli eich diabetes yn dda
  • Bwyta deiet cytbwys gyda llai o fraster dirlawn a llai o siwgr
  • Cadw pwysau iach
  • Peidio ag yfed mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos
  • Ymarfer corff yn rheolaidd

Roedd yr angen hwnnw i wneud ymarfer corff i gydbwyso’r cyfnodau hir y mae’n ei dreulio mewn un lle yn ystod ei ddiwrnod gwaith, yn rhannol y tu ôl i benderfyniad Alex i adael Llundain a symud i Ogledd Cymru.

“Roedd y tîm yn Llundain yn wych ac fe wnes i ei fwynhau’n fawr,” meddai. “Ond, cefais fy magu yn Ardal y Llynnoedd yn wreiddiol, felly roeddwn mewn ardal eithaf gwledig.

“Es i Lerpwl ac fe wnes i fwynhau byw mewn dinas a phan ddechreuais i ar y rhaglen hyfforddi, yn Llundain ac Ysbyty Sant Bartholomew, fe wnes i hynny am dair blynedd.

Darllenwch ragor: Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr (STP) yng Nghymru AaGIC

“Ond roeddwn i eisiau ceisio cael cydbwysedd rhwng fy mywyd a gwaith. Felly symudais i Ogledd Cymru oherwydd roeddwn i eisiau bod allan yn y mynyddoedd yn gwneud y gweithgareddau rwy'n eu mwynhau.

“Felly, dyna’r camau rydw i wedi’u cymryd i geisio cyrraedd y nod hwnnw o gael ffordd iach o fyw.”

Mae wrth ei fodd yn ei gartref mabwysiedig yng Ngogledd-orllewin Cymru, gyda hwylfyrddio, mynydda a ffotograffiaeth ar yr agenda pan fydd yn gorffen ei waith.

Mae Alex, sy’n hanner Eidaleg, hefyd yn cael cwrs carlam mewn siarad ei drydedd iaith (Cymraeg) gan ei gariad, ac mae’n dweud ei fod yn dysgu Cymraeg… yn araf deg.

Mae bellach yn canolbwyntio ar hyfforddi mwy o staff arbenigol i'w gynorthwyo gyda'i waith. Mae hefyd yn gobeithio y gall ddenu mwy o egin wyddonwyr i feddwl am yrfa gyda’n Bwrdd Iechyd ni yma yng Ngogledd Cymru, lle mae eu hangen, yn hytrach na'u bod yn mynd â’u sgiliau i rywle arall.

Gallwch gael y newyddion diweddaraf am y bwrdd iechyd drwy gofrestru ar ein rhestr Cofrestru (es-mail.co.uk)