Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr waith pwysig i'w wneud. Mae ein gwaith yn bwysig oherwydd ein bod yn gofalu am ein cleifion ac yn galluogi a grymuso ein poblogaeth i aros yn iach. Rydyn ni i gyd eisiau gwneud hyn hyd eithaf ein gallu - ond rydyn ni'n gwybod nad yw hi’n ddigon i fod yn llawn bwriad yn unig.
Mae gennym werthoedd ac ymddygiadau sy'n gosod disgwyliadau ar gyfer ein pobl ar draws y sefydliad. Mae'r gwerthoedd hyn, a ddatblygwyd gyda’n staff a rhanddeiliaid, yn sylfaen ar gyfer ein fframwaith ymddygiad; gwerthuso a datblygu. Mae ein gwerthoedd a'n hymddygiad yn sail i'r ffordd yr ydym yn gwneud pethau ac yn nodi sut y disgwylir i ni i gyd ymddwyn yn ein rolau gwaith. Mae’r rhain yn cwmpasu ein dyheadau a’n disgwyliadau. Mae hynny’n cynnwys y ffordd rydyn ni’n ymddwyn, sut rydyn ni’n cyflawni ein rolau a’r ffordd rydyn ni’n recriwtio talent newydd.
Ond maen nhw’n fwy na dim ond set o eiriau neu set o bosteri ar waliau – maen nhw’n ymrwymiad rydyn ni i gyd yn ei wneud i “fod yno” ar gyfer y rhai rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw ac i’n gilydd o le o onestrwydd, pwrpas a pharch. Edrychwn ymlaen at edrych ymhellach ar sut mae eich gwerthoedd yn cyd-fynd â'n rhai ni.