Mae'r dudalen hon yn cael ei datblygu.
Mae'r Athro Robert Sells yn 81 mlwydd oed ac yn hanu o Leamington Spa, a chafodd ddiagnosis yn cadarnhau methiant yr arennau yn 2019 a bu'n rhaid iddo gychwyn cael triniaeth dialysis yn Ysbyty Glan Clwyd. Credir fod ei arennau wedi methu yn sgil adwaith alergaidd prin i feddyginiaeth hirdymor i drin adlif asid.
Mae'r Athro Robert yn llawfeddyg wedi ymddeol, ac ef yw sylfaenydd Uned Trawsblaniadau Lerpwl lle bu'n gyfarwyddwr rhwng 1971 a 2003. Ar yr adeg pan awgrymwyd iddo y gallai trawsblannu aren fod yn opsiwn i drin ei gyflwr, roedd ef a'i wraig, Paula Sells, yn byw yn Sir Ddinbych ac yn briod ers dros 40 mlynedd.
Credai Paula, sy'n 72 mlwydd oed, y byddai'n rhaid disgwyl yn rhy hir i gael aren addas gan roddwr arall. Ar hyn o bryd, mae mwy na 6,000 o bobl yn disgwyl am drawsblaniad ledled y DU.
Fe wnaeth Paula benderfynu ysgwyddo cyfrifoldeb am y mater a chychwynnodd y broses o roddi ei haren trwy'r rhaglen rhoddwyr arennau byw. Mae'r rhaglen hon yn galluogi rhoddwr byw i roddi aren i rywun maent yn ei adnabod (er enghraifft, perthynas neu ffrind), neu hyd yn oed i ddieithryn.
Dywedodd Paula: “Roedd y posibilrwydd o gael trawsblaniad yn ansicr. Roedd rhai o aelodau'r tîm trawsblannu arennau yn Ysbyty Athrofaol Brenhinol Lerpwl yn bryderus yn sgil ein hoedran ac roedd gan Robert broblemau â'i frest.
“Roedd canolfan drawsblannu arall wedi gwrthod gwneud y penderfyniad i drawsblannu oherwydd roedd profion wedi dangos nad oedd ein meinweoedd yn cydweddu o gwbl.
“Yn ffodus iawn, fe wnaeth Cyfarwyddwr Uned Trawsblaniadau Lerpwl fwrw pleidlais troi'r fantol o blaid trawsblaniad, a dywedodd ein bod ni, er gwaethaf ein hoedran, yn heini, yn llawn mynd ac yn dymuno mwynhau bywyd gyda'n hwyrion a'n hwyresau."
Cychwynnodd y gwaith i baratoi iddi roddi ei haren trwy gynnal archwiliadau iechyd trylwyr, asesiadau seicolegol a thrafodaethau ynghylch sut y gellid datrys y ffaith nad oedd y meinweoedd yn cydweddu a'r perygl cynyddol y gallai system imiwnedd yr Athro Robert wrthod yr aren.
Cynhaliwyd y llawdriniaeth i drawsblannu'r aren a wnaeth weddnewid bywyd Robert ychydig fisoedd cyn cychwyn pandemig Covid-19.
Wedi'r llawdriniaeth, dywedodd Paula: “Yn rhyfeddol, prin iawn oedd y boen a deimlwn wedi'r llawdriniaeth a chefais fy anfon adref ymhen pedwar diwrnod.
“Fe wnaeth gofal rhagorol gan y staff nyrsio a'r sgyrsiau doniol gyda chleifion eraill yn y ward sicrhau bod tri diwrnod yn yr ysbyty wedi gwibio heibio.
“Fe wnaeth y toriadau 'twll clo' yn yr abdomen at ddibenion y llawdriniaeth wella'n gyflym iawn ac maent yn anweladwy erbyn hyn. Bu'n rhaid i mi ddisgwyl dipyn mwy i adfer fy egni arferol ond rwy'n falch iawn ein bod ni wedi bwrw ymlaen - fe wnaeth y trawsblaniad newid ein bywydau yn llwyr.
“Roedd rhai o'n perthnasau yn gwrthwynebu'r penderfyniad i fwrw ymlaen â'r trawsblaniad, ond roeddwn i'n gwybod fy mod i'n dymuno rhoi aren yn anrheg i fy ngŵr trwy'r weithred drawsnewidiol hon .”
Bron iawn chwe blynedd yn ddiweddarach, mae'r Athro Robert a Paula yn dal i fyw bywydau bywiog, ac i'r trawsblaniad mae'r holl ddiolch am hynny.
Darllenwch ragor am y rhaglen rhoddwyr arennau byw.