Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwasanaeth Arennol a Thrawsblannu Arennau

Mae ein gwasanaeth arennol a thrawsblannu arennau yn cefnogi cleifion yng Ngogledd Cymru sydd â dirywiad yng ngweithrediad yr arennau. Mae ein tîm o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gweithio’n agos i ofalu am gleifion a allai fod angen y canlynol:

  • Profion i ddynodi’r hyn sydd o’i le gyda’u harennau
  • Triniaethau i atal dirywiad pellach os yw’n bosibl
  • Trawsblaniad aren

Opsiynau triniaeth ar gyfer dirywiad yng ngweithrediad yr arennau

Ystyrir mai trawsblaniad yw'r opsiwn triniaeth gorau ar gyfer cleifion sydd â dirywiad yng ngweithrediad yr arennau ac sy’n iach yn feddygol ar gyfer y llawdriniaeth. Derbynnir yn gyffredinol bod trawsblaniad yn darparu gwell ansawdd bywyd na dialysis.

Nid yw pawb yn addas i gael trawsblaniad aren ac efallai nad dyma’r opsiwn triniaeth gorau i bawb, felly mae’n bwysig ceisio cyngor gan nyrs neu feddyg arennau i ddod o hyd i opsiynau triniaeth gwahanol.

Dysgwch fwy am yr opsiynau triniaeth gwahanol ar wefan Rhwydwaith Arennau Cymru isod:

Gwasanaethau trawsblannu arennau yng Ngogledd Cymru

Ein nyrsys trawsblannu arennau yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cleifion sy’n cael eu hystyried ar gyfer trawsblaniad aren. Bydd cleifion yn cael eu hasesu ar gyfer addasrwydd meddygol a byddant yn cael yr holl wybodaeth berthnasol i’w cefnogi wrth wneud penderfyniad gwybodus.

Os bydd gweithrediad aren claf yn disgyn i lai na 25%, bydd y claf yn cael cynnig sesiynau gwybodaeth i gefnogi ei benderfyniadau o ran triniaeth. Os ydych yn un o’n cleifion arennau ac nad ydych wedi cael cynnig y sesiynau gwybodaeth hyn eto, cysylltwch â’ch nyrs trawsblannu leol.

Yr hyn i’w ddisgwyl

Dyma’r hyn i’w ddisgwyl ar gyfer cleifion sydd â dirywiad yng ngweithrediad yr arennau a fyddai’n hoffi ac sy’n addas i gael eu hystyried ar gyfer trawsblaniad aren:

  • Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi ai trawsblaniad yw'r dewis gorau o ran triniaeth yn seiliedig ar eich achos unigol.
  • Bydd y nyrsys trawsblannu yn cwrdd â chi i roi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn i chi allu gwneud penderfyniad gwybodus am eich triniaeth.
  • Trefnir ymchwiliadau i benderfynu a ydych yn iach yn feddygol ar gyfer y llawdriniaeth a’r meddyginiaethau y bydd angen i chi eu cymryd am oes y trawsblaniad.
  • Efallai y bydd angen i chi gael sganiau amrywiol a fydd yn cael eu hesbonio i chi.
  • Unwaith y bydd eich meddyg yn hapus gyda’r canlyniadau, bydd yn eich cyfeirio at Ysbyty Prifysgol Brenhinol Lerpwl ar gyfer trawsblaniad aren neu Ysbyty Brenhinol Manceinion ar gyfer trawsblaniad aren a phancreas os oes gennych ddiabetes math 1.
  • Unwaith y byddwch wedi cael eich apwyntiad yn yr ysbyty perthnasol a’ch achos wedi cael ei drafod mewn cyfarfod gyda gweithwyr proffesiynol iechyd gwahanol, os canfyddir eich bod yn addas ar gyfer trawsblaniad, yna bydd eich enw'n cael ei roi ar y rhestr aros genedlaethol am drawsblaniad.
  • Byddwch yn derbyn llythyr yn cadarnhau unwaith y byddwch yn weithredol ar y rhestr aros genedlaethol am drawsblaniad. Dylech dderbyn hwn o fewn ychydig o wythnosau i’ch apwyntiad terfynol – cysylltwch â’ch nyrs trawsblannu leol os nad ydych yn derbyn llythyr.

Rhestr aros genedlaethol am drawsblaniad

Mae’n bwysig eich bod yn cadw eich ffôn gyda chi bob amser gan fod angen i ni gysylltu â chi.

Cadwch eich manylion cyswllt yn gyfredol a rhowch wybod i’ch nyrs trawsblannu o unrhyw newidiadau i rifau ffôn, manylion cyswllt neu gyfeiriad.

Os byddwch yn sâl neu’n os ydych yn bwriadu mynd ar wyliau, rhowch wybod i’ch nyrsys trawsblannu arennau.

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am drawsblaniadau arennau ar wefan Rhwydwaith Arennau Cymru.

Dolenni defnyddiol: