Mae'r dudalen hon yn cael ei datblygu
Rydym yn dîm sy'n gweld plant a phobl ifanc hyd at 18 mlwydd oed. Rydym yn cefnogi pobl sydd angen help gyda'u meddyliau, eu teimladau a'u hemosiynau.
Rydym yn gweld pobl ag anghenion iechyd meddwl cymhleth a thymor hwy sy'n eu hatal rhag gwneud y pethau y maent am eu gwneud a byw bywyd llawn. Gallai’r rhain fod yn bethau fel peidio â mynd i’r ysgol, peidio â gofalu amdanoch chi’ch hun, cael trafferth gyda pherthnasoedd gartref neu yn yr ysgol a all eich gwneud yn ofidus, yn obsesiynol ac yn ymddwyn yn ailadroddus fel meddyliau sy’n gwneud i chi deimlo allan o’ch rheolaeth eich hun a/neu glywed lleisiau yn eich pen nad sy'n perthyn i chi.
Rydym yn gweithio gyda chi i ddeall beth sy'n bwysig i chi a darganfod eich nodau. Gallai’r nodau hyn ymwneud â sut rydych chi’n newid pethau i fod yn fwy diogel neu’n mynd i’r siopau heb boeni, peidio â brifo’ch hun pan fyddwch chi’n teimlo wedi’ch llethu ac yn delio â straen a phryderon. Rydym hefyd yn eich cefnogi gyda nodau eraill fel rheoli anawsterau bwyta, hunaniaeth a pherthynas â’n cyrff, teimlo’n drist drwy’r amser a pheidio â gwneud yr hyn yr ydym am ei wneud, perthnasoedd personol neu ddeall sut mae eich niwroamrywiaeth yn effeithio ar eich iechyd meddwl.
Pwy (gwasanaethau) fyddwn ni'n eu gweld?
Mae’r tîm yn cynnwys:
Sut allaf gael mynediad at y gwasanaethau?
Os ydych chi'n teimlo bod angen cymorth arnoch gyda'ch iechyd meddwl, gall eich meddyg teulu, gweithiwr cymdeithasol, nyrs ysgol, pediatregydd neu athro o'ch ysgol eich cyfeirio at ein tîm. Bydd rhywun o'n tîm yn edrych ar y cyfeiriad i weld a allwn gynnig yr help sydd ei angen arnoch. Yna, byddwn yn cysylltu â chi a'ch gofalwr i gwblhau'r broses brysbennu dros y ffôn ac ystyried pa gefnogaeth fyddai'n eich helpu.
Weithiau, mae gwasanaethau eraill a allai fod yn fwy defnyddiol i chi a byddwn yn ysgrifennu llythyr atoch yn rhoi gwybod i chi.
Os ydym yn meddwl bod angen ein help arnoch, byddwn yn eich gwahodd i apwyntiad dewis lle byddwch yn cyfarfod ag un o'n tîm a fydd yn gofyn llawer o gwestiynau i chi i ddarganfod sut mae pethau i chi e.e. gyda'r ysgol, bywyd teuluol, yn gymdeithasol a chyfeillgarwch gan gynnwys eich pryderon. Bydd eich apwyntiad cyntaf yn para tua awr a hanner a byddwch yn cael cyfle i siarad â ni ar eich pen eich hun a gyda'ch teulu a'ch gofalwyr.
Gallwch ddewis cael eich teulu neu oedolyn cefnogol gyda chi yn eich apwyntiadau os ydych yn teimlo y byddai hyn yn eich helpu. Rydym yn deall y gall fod yn anodd siarad â phobl ddieithr am eich meddyliau a’ch teimladau. Mae croeso i chi ddod â gwrthrychau tynnu sylw gyda chi os ydych chi'n meddwl y byddai'n eich helpu i deimlo’n fwy cyfforddus. Rydych chi hefyd yn cael dewis siarad â ni tra bod eich rhieni neu ofalwyr yn yr ystafell aros.
O'ch apwyntiad dewis, byddwn yn eich helpu i benderfynu a yw ein gwasanaeth yn mynd i fod y mwyaf defnyddiol i chi oherwydd efallai y bydd cymorth gan wasanaeth arall ar gael neu byddwn yn eich rhoi ar y rhestr aros am apwyntiad partneriaeth.
Mae apwyntiad partneriaeth yn gyfarfod 1:1 gyda'ch clinigwr a enwir a'ch teulu, os dymunwch. Mae apwyntiadau fel arfer yn awr o hyd ac yn cael eu cynnal naill ai bob wythnos neu bob pythefnos a gallant amrywio yn dibynnu ar bwy rydych yn eu gweld. Rydym yn defnyddio adnoddau gwahanol yn y sesiynau gan gynnwys canllawiau hunangymorth, fideos, celf a chrefft a phethau y gallwch eu gwneud rhwng sesiynau.
Bydd yr apwyntiad yn therapi siarad. Gallwch ddarganfod mwy am therapïau trwy ddilyn y ddolen hon: (link to therapies page).
Cynllunio diogelwch
Byddwn yn gweithio gyda chi ac yn eich cefnogi i gwblhau cynllun diogelwch a fydd yn helpu i leihau unrhyw feddyliau neu sbardunau a allai fod gennych fel y gallwch deimlo bod gennych fwy o reolaeth. Gall y cynllun diogelwch gynnwys syniadau ar gyfer:
Beth i'w wneud os ydych chi'n teimlo bod angen cymorth a chefnogaeth arnoch ar frys?
Rhwng 9am a 5pm gallwch ffonio ein Llinell Ddyletswydd i gael cymorth a chyngor a'r tu allan i oriau gallwch ffonio 111+2. Fodd bynnag, os ydych mewn perygl uniongyrchol o niwed neu'n teimlo na allwch gadw'ch hun yn ddiogel, byddem yn eich cynghori i ffonio ambiwlans neu fynd i'ch adran achosion brys lleol.
Sut ydw i'n dod o hyd i chi?
Mae ein tîm wedi'i leoli yn Ysbyty Llandudno. Rydym yn cynnig sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein yn dibynnu ar eich anghenion neu amgylchiadau.
Gall parcio fod yn anodd. Mae maes parcio mawr ar gael o amgylch cefn yr adeilad y gellir ei gyrchu drwy yrru heibio’r brif fynedfa a chymryd y tro nesaf ar y dde ger yr arwydd 10mya.
Os ydych yn parcio o flaen yr ysbyty… Dewch i mewn drwy'r brif fynedfa, gallwch ofyn am gyfarwyddiadau yn y brif dderbynfa a dilyn yr arwyddion uwchben tuag at CAMHS.
Os byddwch yn parcio yng nghefn yr ysbyty… dewch i mewn i’r drws coch (mynedfa pelydr-x) a dilynwch yr arwyddion i’r brif dderbynfa ac yna ymlaen i CAMHS.
Mae CAMHS wedi’i leoli ar y llawr cyntaf (i fyny’r grisiau) ac mae lifft ar gael i’w ddefnyddio os bydd ei angen arnoch.
Cynllunio Diogelwch
Byddwn yn gweithio gyda chi ac yn eich cefnogi i gwblhau cynllun diogelwch a fydd yn helpu i leihau unrhyw feddyliau neu sbardunau a allai fod gennych fel y gallwch deimlo bod gennych fwy o reolaeth. Gall y cynllun diogelwch gynnwys syniadau ar gyfer:
Beth i'w wneud os ydych chi'n teimlo bod angen cymorth a chefnogaeth arnoch ar frys?
Yn ystod yr oriau 9am-5pm gallwch ffonio ein Llinell Ddyletswydd am gefnogaeth a chyngor a thu allan i oriau gallwch ffonio 111+2. Fodd bynnag, os ydych mewn perygl uniongyrchol o niwed neu'n teimlo na allwch gadw'ch hun yn ddiogel, byddem yn eich cynghori i ffonio ambiwlans neu fynd i'ch adran damweiniau ac achosion brys lleol.
Sut ydw i'n dod o hyd i chi?
Mae ein tîm wedi ei leoli yn Nhalarfon, Ffordd Caergybi Bangor. Mae maes parcio bychan yng nghefn yr adeilad y gellir cael mynediad iddo o Ffordd Caergybi.
Bydd angen i chi fynd drwy’r prif ddrws ym mlaen yr adeilad, lle byddwch yn cael eich cyfarch gan dderbynnydd.
Rydym yn cynnig sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein yn dibynnu ar eich anghenion neu amgylchiadau.
Sut mae dweud wrthych fy mod wedi cyrraedd?
Pan fyddwch yn cyrraedd y dderbynfa mae seiniwr/intercom i chi ei ddefnyddio a bydd y derbynnydd yn rhoi gwybod i'ch clinigwr eich bod wedi cyrraedd ac yn aros.
Mae'r man aros wrth ymyl y dderbynfa. Os ydych wedi bod yn aros am fwy na 10 munud am eich apwyntiad, rhowch wybod i rywun yn y dderbynfa a byddant yn mynd ar ôl hyn ar eich rhan.