Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Arbenigol Anhwylderau Bwyta yn fy nghymuned

Rydym yn dîm arbenigol sy’n gweithio gyda phobl ifanc a’u teuluoedd/gofalwyr pan fyddant yn cael trafferth ag anawsterau bwyta a/neu anhwylderau bwyta.

Mae gan bob un ohonom gefndiroedd a sgiliau gwahanol ac mae ein tîm yn cynnwys:

  • Therapyddion Teuluoedd
  • Nyrsys Arbenigol CAMHS
  • Therapyddion Galwedigaethol
  • Deietegydd
  • Ymarferwyr Cynorthwyol

Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda:

  • Seiciatryddion
  • Seicolegwyr
  • Pediatregydd
  • Ysgolion
  • Cymorth Cymunedol
  • Eich Meddyg Teulu Lleol
  • Eich Tîm CAMHS Lleol

Sut allaf gael mynediad at y gwasanaethau?

Os ydych chi neu rywun arall yn teimlo bod angen cymorth arnoch gyda'ch anawsterau bwyta, gall eich meddyg teulu, gweithiwr cymdeithasol, nyrs ysgol, pediatregydd neu athro o'ch ysgol eich cyfeirio at ein tîm. Bydd rhywun o'n tîm yn edrych ar y cyfeiriad i weld a allwn gynnig yr help sydd ei angen arnoch. Weithiau mae gwasanaethau eraill a allai fod yn fwy defnyddiol i chi a byddwn yn ysgrifennu llythyr atoch ac yn rhoi gwybod i chi.​ Os byddwn yn meddwl bod angen ein cymorth arnoch byddwn yn eich gwahodd i asesiad arbenigol ar gyfer anhwylderau bwyta.

Beth ydym ni'n ei wneud?

Rydym yn gweithio'n agos gyda SpeED yng Ngwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru ac yn ymuno â nhw ar gyfer asesiadau. Rydym hefyd yn cynnal asesiadau ein hunain yn eich ardal leol yn dibynnu ar eich anghenion.

Beth yw asesiad?

Mae asesiad yn gyfle i ni siarad â chi a'ch teulu i ddeall yr hyn rydych chi'n cael trafferth ag ef ar hyn o bryd ac i ddod i'ch adnabod chi. Yn y modd hwn gallwn drafod gyda'n gilydd beth allai fod y pethau mwyaf defnyddiol y gallwn eu gwneud i'ch cefnogi. Efallai y byddwn yn gofyn i chi am eich diddordebau a hobïau, bywyd teuluol, cyfeillgarwch, ysgol a phethau sy'n bwysig i chi yn ogystal â pha mor hir rydych wedi bod yn cael trafferth gydag unrhyw anawsterau bwyta a sut rydych chi'n deall y rhain. Byddwn yn gofyn i chi lenwi ambell holiadur i'n helpu ni i ddeall eich barn chi a'ch teulu. Gall yr asesiad hefyd gynnwys gwiriadau iechyd corfforol fel pwysedd gwaed, pwysau a mesuriadau taldra.

Os yw'r asesiad yn eich ardal leol, bydd yn cymryd ychydig oriau i'w gwblhau. Bydd yr asesiad yn cynnwys eich teulu/gofalwyr ac rydym yn ei chael yn ddefnyddiol pe bai pob rhiant/gofalwr ac aelod arall o’r teulu yn gallu mynychu’r asesiad os yw hyn o gymorth.

O’r asesiadau, byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu cynllun a all gynnwys cyfeirio at wasanaethau eraill, opsiynau therapi unigol, cynllunio prydau bwyd neu gyngor ar fwyd, cymorth gydag ysgol, coleg a/neu waith a gwaith ar gyfer y teulu.

Cynllun Diogelwch

Ar ddechrau ein gwaith gyda'n gilydd, efallai y bydd angen cwblhau cynllun diogelwch gyda chi a'ch rhieni/gofalwyr. Gall y cynllun diogelwch gynnwys syniadau ar gyfer: ​

  • Technegau tawelu a mecanweithiau ymdopi
  • Cefnogaeth gan ffrindiau, teulu a gofalwyr
  • Gofodau diogel
  • Syniadau defnyddiol, gwasanaethau cymorth a llinellau cymorth
  • Beth i'w wneud os ydych chi'n teimlo eich bod chi neu'ch teulu/gofalwyr angen cymorth a chefnogaeth ar frys
  • Rheoli bwyta'n rheolaidd

Beth yw'r problemau yr ydym yn gweithio gyda nhw?

Gall hyn fod yn anhwylderau bwyta fel anorecsia nerfosa, bwlimia nerfosa ac ARFID neu anawsterau bwyta cymhleth yng nghyd-destun diagnosis neu broblemau iechyd meddwl eraill.

Beth sy'n digwydd yn ystod triniaeth?

Bydd y cynllun triniaeth y byddwn yn ei greu yn eich asesiad yn dibynnu ar sut rydym yn deall eich anawsterau bwyta a'r effaith y mae'r rhain yn ei chael ar eich iechyd corfforol. Cynigir apwyntiadau i chi a bydd y rhain yn digwydd naill ai yn eich CAMHS lleol neu gartref yn dibynnu ar eich anghenion.

Bydd pa mor aml yr ydym yn eich gweld  hefyd yn dibynnu ar eich anghenion iechyd corfforol a meddyliol a'r cymorth sydd ei angen ar eich teulu/gofalwyr i ofalu amdanoch chi. I ddechrau, bydd hyn yn digwydd o leiaf unwaith yr wythnos a byddwn yn parhau i wneud yn siŵr bod y cynllun yn bodloni eich anghenion chi a’ch teuluoedd/gofalwyr. Byddwn yn ei addasu yn ôl yr angen ond bydd hyn bob amser yn cael ei drafod gyda chi.

Yn ystod eich apwyntiadau, efallai y byddwch yn gweld gwahanol bobl o'n tîm, e.e. dietegydd yn siarad â chi am gynlluniau prydau bwyd neu efallai y bydd therapydd galwedigaethol yn siarad am gymorth gyda'r ysgol. Mae ein hymyriadau teuluol yn helpu i gefnogi eich rhieni/gofalwyr i’ch cefnogi ar adeg anodd ond bydd hyn bob amser yn ystyried beth sydd orau i chi.

Yn ystod eich triniaeth, efallai y bydd angen parhau i gwblhau gwiriadau corfforol yn rheolaidd a allai gynnwys ein cydweithwyr SpeED ​​yn yr hwb.

Rydym yn defnyddio adnoddau gwahanol yn y sesiynau gan gynnwys canllawiau hunangymorth, fideos, celf a chrefft a phethau y gallwch eu gwneud rhwng sesiynau.

Pwy fydd yn fy apwyntiad ac a allaf ddod â rhywbeth gyda mi?

Rydym yn eich annog i ddod â'ch teulu gyda chi gan y gallant fod yn ganolog i'ch cefnogi yn eich adferiad. Gallwch hefyd ddod â brawd neu chwaer neu unigolyn cefnogol arall fel nain neu daid gyda chi os ydynt yn rhan o'ch rhwydwaith cymorth a byddai'n ein helpu i ddeall eich anawsterau bwyta yn well. Gwyddom y gall asesiadau ac apwyntiadau achosi straen a gall fod yn ddefnyddiol dod â gwrthrych fel tegan tynnu sylw gyda chi os teimlwch y byddai o gymorth.