Neidio i'r prif gynnwy

Pontio

This page is under development 

Gall troi yn 18 mlwydd oed fod yn gyfnod heriol i rai pobl wrth i chi nesáu at fod yn oedolyn a gall llawer o bethau newid. Pan fyddwch yn nesáu at 18 mlwydd oed a’ch bod yn dal angen cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl, byddwn yn gweithio gyda chi ac yn trosglwyddo eich gofal i’r tîm iechyd meddwl oedolion os mai dyna sydd orau i chi ac os mai dyna yw eich dewis. Dyma beth rydym yn ei alw'n broses bontio i Wasanaeth Iechyd Meddwl Oedolion o CAMHS.

Beth i’w ddisgwyl?

Bydd eich ymarferydd a enwir yn cael trafodaeth gyda chi i egluro'r broses bontio a chlywed eich barn am yr hyn sydd orau i chi. Mae CAMHS yn gweithio'n wahanol i Wasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion ac er ei bod yn bosibl yr hoffech barhau â gofal a thriniaeth, efallai y bydd gwasanaethau mwy addas i gefnogi'ch anghenion. Os yw hyn yn wir, byddwn yn gweithio gyda chi i drosglwyddo eich gofal i'r gwasanaethau hyn. Os yw Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion yn addas i chi, byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i nodi pa wybodaeth sy'n bwysig i chi a beth rydych chi'n ei ddewis sy'n cael ei rannu â gwasanaethau oedolion.

Beth yr ydym yn ei wneud? Sut rydym yn cefnogi'r Broses Bontio

Mae gan bob Tîm CAMHS a Thîm Iechyd Meddwl Oedolion wasanaeth pontio sy'n monitro ac yn cefnogi'r broses bontio. Maent yn cyfarfod yn rheolaidd i sicrhau nad oes pobl ifanc sydd eisiau ac angen gwasanaethau iechyd meddwl yn mynd yn angof.

 

Cynllunio ar gyfer Pontio

Mae’n ddefnyddiol ystyried y meysydd canlynol o’ch bywyd wrth gynllunio ar gyfer pontio:

  • Manylion pwysig amdanoch chi'ch hun gan gynnwys beth yw eich prif nodau
  • Beth sydd wedi gweithio'n dda i chi o'r blaen a nawr
  • Eich cas bethau, eich cryfderau a'ch heriau
  • Y bobl o'ch cwmpas sy'n eich cefnogi
  • Unrhyw wybodaeth berthnasol arall y credwch sydd angen ei rhannu
  • Beth os ydw i dal yng nghanol therapi?

 

Os ydych yn cael therapi penodol o dan CAMHS fel DBT, byddem yn sicrhau bod hyn yn parhau fel na fyddwch yn cael seibiant yn eich gofal a'ch triniaeth os yw'n ddiogel gwneud hynny. Gall hyn olygu eich bod yn aros yng ngofal CAMHS am y therapi hwn yn hirach a hefyd yn rhannu rhai rhannau o'ch gofal gydag Iechyd Meddwl Oedolion yn ystod therapi, fodd bynnag, unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau byddwch yn cael eich trosglwyddo'n llawn i'r gwasanaeth oedolion mwyaf addas fel y cytunwyd yn flaenorol yn y cynllunio.

Ar ôl i chi droi'n 18 mlwydd oed, p'un a ydych yn cwblhau therapi gyda CAMHS ai peidio, os bydd angen cymorth ychwanegol neu ofal heb ei gynllunio arnoch yn ystod y cyfnod hwn, bydd hyn gyda'r gwasanaethau oedolion.

Cydweithio

Os byddwch yn rhoi'r gorau i driniaeth ar ôl neu'n agos at eich pen-blwydd yn 18 mlwydd oed, gall eich tîm CAMHS eich helpu a'ch cefnogi i gael mynediad at therapi a thriniaeth a chymorth i oresgyn unrhyw rwystrau i gael cymorth a chefnogaeth am hyd at flwyddyn ar ôl i chi droi'n 18 mlwydd oed. Yn ystod y 12 mis hwn gallwn weithio gyda chi a’r Tîm Iechyd Meddwl Oedolion i’ch cefnogi i barhau i gael mynediad at ofal a thriniaeth.

Rydym yn gwybod y gall fod yn anodd siarad â rhywun newydd am eich bywyd a'ch anawsterau/anghenion felly mae'r broses bontio wedi'i chynllunio i'ch helpu chi i ddatblygu'r perthnasoedd newydd hyn cyn i'ch cymorth CAMHS ddod i ben.

Cyfrinachedd a Chydsynio

Gallwn roi cyngor ac arweiniad i chi i helpu i'ch cefnogi gyda phenderfyniadau i drosglwyddo eich gofal i wasanaethau oedolion ond eich dewis chi yw a yw hyn yn rhywbeth yr hoffech ei wneud.

A fydd fy nheulu/gofalwyr yn dal yn ymwneud â fy ngofal pan fyddaf yn 18 mlwydd oed?

Mae cyfrifoldeb rhiant yn dod i ben pan fydd plentyn yn troi'n 18 mlwydd oed. Mae hyn yn golygu bod gennych chi ddewis a'ch penderfyniadau chi yw pa mor ymglymedig fydd eich teulu a'ch gofalwyr yn eich gofal a'ch triniaeth. Pan fyddwch o dan ofal CAMHS byddwch wedi cael sgyrsiau am ganiatâd a chyfrinachedd a rhannu gwybodaeth gyda theulu a gofalwyr. Os yw hyn yn rhywbeth yr hoffech barhau yn y gwasanaethau oedolion, gallwn eich cefnogi i gyfleu hyn i'ch teulu/gofalwyr gan gydnabod mai eich dewis chi fel oedolyn yw rhoi caniatâd a byddwn yn anrhydeddu eich penderfyniadau a'ch preifatrwydd.

A fydd yn rhaid i mi aros?

 

Rydym yn ceisio sicrhau bod eich trosglwyddiad mor ddi-dor â phosib. Efallai y bydd bwlch amser yn eich cyfnod pontio i Wasanaethau Oedolion yn dibynnu ar eich anghenion. Bydd hyn yn cael ei drafod gyda'ch Ymarferydd CAMHS a byddwn yn gweithio gyda chi i barhau i'ch cefnogi yn ystod y cyfnod hwn.

 

Ble ydw i'n mynd am bresgripsiynau rheolaidd pan fyddaf yng nghanol y broses bontio?

Yn dibynnu ar y feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd, efallai y bydd eich meddyg teulu lleol yn gallu rhagnodi i chi. Ar adegau eraill, bydd angen i'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion wneud hyn.

Gyda phwy ddylwn i gysylltu pan fyddaf yng nghanol y broses bontio?

Mae hyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau:

Os oes gennych Ymarferydd CAMHS, gallwch gysylltu â nhw os oes gennych gwestiynau. (all CAMHS phone numbers)

Os cawsoch eich cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl ar ôl eich pen-blwydd yn 18 mlwydd oed, dylai'r Tîm Meddwl Oedolion lleol allu eich helpu a nodi cynllun cymorth (all AMH numbers).

Gallwch chi bob amser gysylltu â'ch Meddyg Teulu eich hun os ydych chi'n cael trafferth cael mynediad at wasanaethau

Fel safon, mae gwasanaethau Pontio yn cynnig:

  • Fel gwasanaeth, o fewn y gwasanaeth rydym yn cyfarfod yn fisol i sicrhau ein bod yn gwybod pwy fydd yn troi'n 18 mlwydd oed yn ein gwasanaeth
  • Mae gennym aelod o staff enwebedig sy'n arwain ar hyn
  • Byddwn yn sicrhau ein bod yn eich trin yn deg, gan barchu eich gwerthoedd a'ch dymuniadau
  • Byddwn yn sicrhau bod eich anghenion yn ganolog i unrhyw broses
  • Byddwn yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i'r gefnogaeth iawn i chi
  • Os ydych yn derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol neu'n derbyn pecyn gofal arbenigol, byddwn yn eu cynnwys yn eich cynlluniau pontio.
  • Os oes angen help arnoch gan wasanaethau eraill, byddwn yn sicrhau bod hyn yn cael ei wneud ar yr amser iawn i chi

Byddwn yn gwrando arnoch chi ac yn gofyn am eich adborth am eich profiadau o'n gwasanaethau (link to Patient Experience Page)