Neidio i'r prif gynnwy

Mewngymorth Ysgol

Gwasanaeth Mewngymorth Ysgolion CAMH Gogledd Cymru 

Mae eich ysgol yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi plant a phobl ifanc yn ogystal â'u hunain i gael iechyd meddwl a lles da. Galwn hyn yn Gymorth Cynnar.

 

Mae Gwasanaeth Mewngymorth Ysgolion ar gyfer Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Gogledd Cymru (neu Wasanaeth Mewngymorth Ysgolion CAMH yn fyr), yn gweithio fel tîm gan roi cymorth i staff addysg yn eich ysgol i feithrin eu gwybodaeth a’u sgiliau. Er ein bod yn gweithio ochr yn ochr â CAMHS, nid ydym yn cynnig apwyntiadau i blant a phobl ifanc gan mai ein diben ni yw cefnogi eich ysgol fel y gallant eich cefnogi chi yn ogystal â'u hunain fel athrawon a staff addysg.

Mae'r oedolion sy'n gweithio gyda chi yn yr ysgol weithiau'n sylwi pan fyddwch angen ychydig o gymorth ychwanegol.

Ar yr adegau hyn, fel oedolion, nid ydym yn gwybod y ffyrdd gorau o'ch cefnogi bob amser. 

Gall yr Ymarferydd Iechyd Meddwl Addysg dreulio amser gyda'r oedolion hynny o'ch cwmpas yn yr ysgol i feddwl beth allai helpu. Efallai y byddwch yn profi hyn mewn gwahanol ffyrdd megis cael cymorth ychwanegol ar adegau anodd, trwy roi amser i chi siarad â nhw am y pethau sy'n eich poeni, neu eich helpu i gael mynediad at wasanaethau eraill. Mae Gwasanaeth Mewngymorth Ysgolion CAMH Gogledd Cymru yn gwybod pa mor bwysig yw eich addysg a bydd yn eich cefnogi i gael y gorau o'ch gwersi, eich ffrindiau, a dysgu sgiliau newydd i ymdopi â bywyd o ddydd i ddydd.

Manylion Cyswllt

Gall staff addysg gysylltu â'r gwasanaeth drwy e-bost gydag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a gallant gymryd golwg ar y dudalen Padlet am ragor o wybodaeth. 

E-bost: bcu.camhsschoolsinreach@wales.nhs.uk