Pwy ydym ni?
Rydym yn dîm bach o ymarferwyr iechyd meddwl plant sy'n gweithio gyda'ch meddygfeydd lleol ar draws Sir y Fflint a Wrecsam. Rydym yn wasanaeth atal ac ymyrraeth gynnar sy’n cynnig cymorth iechyd meddwl a lles i blant a phobl ifanc.
Sut i gael mynediad at ein gwasanaethau?
Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl a'ch lles, gall gwneud apwyntiad gyda'ch meddyg teulu fod yn gam cyntaf gwych i gael cymorth.
Yn dibynnu ar eich anghenion, efallai y bydd eich meddyg teulu yn eich cyfeirio i'n gweld yn eich meddygfa.
A yw'r gwasanaeth hwn yn addas i mi?
Rydym yn gweld plant a phobl ifanc sy'n cael trafferthion iechyd meddwl ysgafn fel problemau gyda phryder, hwyliau isel a straen.
Mae ein gwasanaeth ar gael i unrhyw un rhwng 7 mlwydd oed a 18 mlwydd oed. I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael os ydych o dan 7 mlwydd oed, gweler: (link to early years pages)
Y gwasanaethau a gynigir?
Ymgynghoriad Proffesiynol
Weithiau gall fod yn anodd cael yr help iawn ar yr amser iawn a dydych chi ddim eisiau gorfod aros neu siarad â rhywun newydd am eich anawsterau. I'ch helpu gyda hyn, gallwn gynghori'ch meddyg teulu i'ch helpu i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnoch heb apwyntiad arall. Dyma beth rydym yn ei alw'n ymgynghoriad proffesiynol.
Apwyntiad
Os cewch eich cyfeirio atom, efallai y cynigir apwyntiad wyneb yn wyneb neu apwyntiad ffôn i chi. Bydd yr apwyntiad hwn yn ein helpu i ddod i'ch adnabod ac i roi syniad i ni o'ch anawsterau. Unwaith y byddwn yn gwybod beth sy’n bwysig i chi, gallwn weithio gyda’n gilydd i ddatblygu cynllun cymorth cytûn a gallwn gynnig cyngor i chi, eich cyfeirio at wasanaethau eraill sydd ar gael neu gynnig hyd at bedair sesiwn.
Byddwn yn cysylltu â chi neu'ch rhiant i drefnu dyddiad ac amser ar gyfer naill ai apwyntiad ffôn neu wyneb yn wyneb yn eich meddygfa.
Pan fyddwch yn cyrraedd eich Practis Meddyg Teulu, rhowch wybod i'r derbynnydd eich bod wedi cyrraedd ac enw'r sawl y mae gennych apwyntiad ag ef/hi. Eisteddwch, bydd y derbynnydd yn rhoi gwybod i ni eich bod wedi cyrraedd a byddwn yn eich galw ar gyfer eich apwyntiad.
Mae ein tîm yn cynnwys:
Beth yw cyngor?
Gall cyngor fod yn ddefnyddiol i'ch cefnogi i wneud penderfyniadau sy'n helpu'ch anghenion orau. Gall peth o'r cyngor hwn fod yn dechnegau hunangymorth neu'r hyn a alwn yn Seico-addysg sy'n eich cefnogi i ddeall y ffeithiau am eich teimladau a'ch emosiynau. Gall y cyngor hwn hefyd fod yn ddefnyddiol i'ch teulu, ffrindiau a gofalwyr wrth eich cefnogi.
Beth yw cyfeirio (signposting)/cyfeirio ymlaen?
Mae yna lawer o wasanaethau eraill sy'n gweithio ochr yn ochr â ni y gwyddom y gallant eich helpu i wella'ch lles. Mae cyfeirio (signposting) yn darparu gwybodaeth am y gwasanaethau hyn a beth y gallant ei wneud i chi fel eich bod yn gallu cysylltu â nhw'n uniongyrchol. Cyfeirio ymlaen yw lle gallwn eich cefnogi i gael mynediad at y gwasanaethau hyn.
Mae'r gwasanaethau eraill hyn wedi'u lleoli yn eich cymunedau a'ch ysgolion lleol a gallant gynnig cwnsela, grwpiau cymorth, cefnogaeth cyfoedion, cefnogaeth rhieni, therapi chwarae, cyfle i grwydro a llawer o bethau eraill.
Os ydych chi eisiau hunan-gyfeirio neu ddarganfod mwy o wybodaeth gweler y dolenni isod:
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd x2, Hwb Cymorth Cynnar Sir y Fflint, DEWIS, Siop Wybodaeth
Beth yw'r sesiynau?
Mae sesiynau hyd at 1 awr o hyd ac yn cael eu cynnig bob ychydig wythnosau hyd at bedair gwaith. Gall y sesiynau hyn drafod strategaethau ymdopi fel rheoli pryder, hylendid cwsg, herio meddyliau negyddol, strategaethau 5 ffordd at les, ymlacio, ymwybyddiaeth ofalgar a/neu fyfyrdod dan arweiniad. Rydym yn defnyddio adnoddau gwahanol gan gynnwys canllawiau hunangymorth, fideos, iPads, celf a chrefft a phethau y gallwch eu gwneud rhwng sesiynau.
Gaf i ddod â rhywun gyda mi?
Gallwch ddewis cael eich teulu neu rywun i'ch cefnogi yn eich apwyntiadau os ydych yn teimlo y byddai hyn yn eich helpu. Rydym yn gwybod bod siarad â rhywun newydd yn gallu bod yn frawychus, felly gallwch chi ddewis dod â rhywbeth i'ch apwyntiad i'ch helpu chi i deimlo'n gyfforddus megis tegan gwingo neu flanced. Rydych chi hefyd bob amser yn cael y dewis i siarad â ni tra bod eich rhieni neu ofalwyr yn yr ystafell aros.
Sut i gysylltu â ni:
Er ein bod yn gweithio'n agos iawn gyda'ch Practis Meddyg Teulu, rydym yn dîm bach ac yn gweithio ar draws Sir y Fflint a Wrecsam felly nid ydym bob amser wedi cael ein lleoli yn y practis ond gallwch gysylltu ar Rif Ffôn Mewngymorth Meddygon Teulu CAMHS: NUMBER NEEDS ADDING