Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Atal ac Ymyrraeth Gynnar (EIPS)

Rydym yn rhan o’r gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, ac rydym yn gweithio gyda theuluoedd, gweithwyr proffesiynol, a phobl ifanc i gynnig ymyriad byr o gymorth ac arweiniad i bobl ifanc sy’n cael trafferth gyda meddyliau a theimladau, hwyliau isel, gorbryder ac nad ydynt angen asesiad iechyd meddwl.

Ble byddaf i'n cael fy ngweld?

Ble bynnag y cewch eich gweld, boed yn y gymuned, eich cartref eich hun (hyd at 5 sesiwn gartref) neu un o’n hadeiladau, byddwch yn cael eich gweld mewn man diogel a chyfrinachol ac yn cael cyfle i archwilio a siarad am unrhyw anawsterau.  

Beth i'w ddisgwyl o gyfeiriad a beth rydym yn ei wneud?

Byddwch chi a'ch rhieni neu ofalwyr yn gwybod bod eich meddyg teulu neu'ch ysgol wedi'ch cyfeirio atom, bydd angen i chi a'ch rhiant neu ofalwr gytuno (Cydsynio) i'r cyfeiriad a'r driniaeth. 

Bydd angen i ni gwrdd â'ch rhiant/gofalwr ac athrawon i helpu i roi cynllun yn ei le i'ch helpu chi, efallai na fydd angen i ni eich gweld chi bob amser.

Rydym yn cynnig ymyriadau byr ar gyfer gorbryder, hwyliau isel, anawsterau gyda ffrindiau neu deulu, rhyngweithio cymdeithasol, bywyd ysgol neu yn y cartref.

Byddai’n well gennym gwrdd â chi neu’ch rhieni, gofalwyr neu athrawon wyneb yn wyneb ond gallwn hefyd gynnig galwadau fideo neu apwyntiadau ffôn os oes angen.

Beth sydd angen i chi ddod gyda chi?

Rydym eisiau i chi deimlo'n gyfforddus, felly er nad oes angen i chi ddod ag unrhyw beth gyda chi, mae croeso i chi ddod ag unrhyw beth gyda chi (ac eithrio anifeiliaid anwes) a fydd yn eich helpu i deimlo'n gyfforddus fel clustffonau, llyfr neu rywbeth i'w wneud i dynnu eich sylw.

Manylion Cyswllt: 03000 859 152