Mae CAMHS y Blynyddoedd Cynnar yn darparu gwasanaeth atal, ymyrraeth gynnar, a chymorth uniongyrchol i rieni a'u babanod a phlant ifanc 0-6 oed (hyd at eu pen-blwydd yn 7). Nod ein gwasanaeth yw cefnogi rhieni, babanod a phlant ifanc, hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol rhwng rhieni a phlant, a chefnogi lles emosiynol ac iechyd meddwl plant ifanc.
Pwy rydym yn ei gefnogi
Mae rhieni a gofalwyr yn cyfarfod â ni am lawer o resymau gwahanol. Gallwn helpu gyda materion sy’n ymwneud â datblygiad cymdeithasol ac emosiynol babi neu blentyn ifanc o dan 7 mlwydd oed, neu lle mae gan y rhiant bryderon am eu perthynas â’u babi neu blentyn ifanc.
Rydym yn cynnig cymorth uniongyrchol i deuluoedd sydd angen cymorth arbenigol ac yn gweithio’n agos gydag Ymwelydd Iechyd, gweithiwr Dechrau’n Deg neu Nyrs Ysgol eich teulu.
Sut gallwn ni helpu?
Eich cam cyntaf i gael cefnogaeth ar gyfer pryder am ddatblygiad emosiynol eich babi neu blentyn ifanc, neu ar gyfer eich perthynas â'ch babi neu blentyn ifanc, fyddai siarad â'ch Ymwelydd Iechyd. Bydd eich Ymwelydd Iechyd yn eich helpu i ddeall eich pryderon ac yn eich cefnogi i gael mynediad at gymorth yn y gymuned o’ch cwmpas.
Mae eich Ymwelydd Iechyd, gweithiwr Dechrau'n Deg neu Nyrs Ysgol yn gallu siarad â Gwasanaeth CAMHS y Blynyddoedd Cynnar ynglŷn â chyngor, cymorth a hyfforddiant i gefnogi eu gofal i'ch teulu. Mae CAMHS y Blynyddoedd Cynnar hefyd yn cynnig y cymorth hwn i weithwyr proffesiynol eraill, megis gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr rhianta, ac ysgolion/meithrinfeydd.
Pan fydd problemau'n parhau ar ôl i chi gael cymorth, efallai y byddwn yn cynnig cyfarfod â'ch teulu ynghyd â gweithwyr proffesiynol sy'n eich cefnogi, fel eich Ymwelydd Iechyd.
Gall hyn arwain naill ai at gymorth therapiwtig ar y cyd â gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â'ch gofal, neu asesiad uniongyrchol ac ymyriad therapiwtig a ddarperir gan aelod o Dîm CAMHS y Blynyddoedd Cynnar.
Rydym yn gweithio'n agos gyda thimau Iechyd eraill gan gynnwys Pediatregwyr Cymunedol, Tîm Datblygu Cyn-ysgol, Therapi Iaith a Lleferydd, Tîm Niwroddatblygiadol.
Pwy sydd yn y tîm (rolau):
Mae Tîm CAMHS y Blynyddoedd Cynnar yn gweithio'n agos gyda'r timau Ymwelwyr Iechyd a Dechrau'n Deg. Mae yna aelodau gwahanol o dîm CAMHS y Blynyddoedd Cynnar y gallech chi gwrdd â nhw, yn cynnwys:
Asesiad
Os cewch eich gwahodd am apwyntiad asesu, byddem fel arfer yn cwrdd â chi mewn Canolfan Deulu Dechrau'n Deg neu yng Nghanolfan Iechyd Plant, Maelor Wrecsam. Mae hyn yn dibynnu ar ble rydych yn byw.
Bydd yr apwyntiad hwn yn para tua 1.5 awr. Yn ystod yr apwyntiad hwn rydym yn gobeithio darparu profiad caredig, diogel a chefnogol lle gallwn ddatblygu dealltwriaeth gyda'n gilydd am eich pryderon neu ofnau ynglŷn â'ch plentyn. Yna byddwn yn trafod cynllun cymorth ac yn cynnig rhywfaint o gyngor.
Yn ystod yr apwyntiad hwn hoffem ddod i’ch adnabod chi a’ch plentyn, clywed am gryfderau eich plentyn, a byddwn yn ystyried eich pryderon am eich plentyn.
Drwy eich perthynas â'ch plentyn y mae'n dysgu amdano ei hun, ei deimladau, ei berthnasoedd a'r byd o'i gwmpas. Felly, bydd ein hasesiad yn rhoi lle cefnogol i chi fyfyrio ar eich perthynas â'ch plentyn, ynghyd â'ch bywyd teuluol o'r cyfnod cyn beichiogrwydd hyd heddiw.
Byddwn yn treulio peth amser gyda chi a'ch babi yn chwarae. Ar gyfer plant sy'n hŷn, byddwn yn treulio peth amser gyda'ch plentyn i ddeall eu datblygiad trwy chwarae.
Mae'r asesiad yn seiliedig ar ganiatâd, a byddwn yn darparu gofod cefnogol sy'n parchu'r hyn rydych chi'n teimlo'n gyfforddus i siarad amdano. Rydym yn deall bod teuluoedd weithiau wedi bod trwy brofiadau anodd neu ofidus ac rydym yn darparu gofod cefnogol ac anfeirniadol i drafod y profiadau hyn, os ydych chi'n teimlo'n gyfforddus i wneud hynny.
Yna, byddwn yn trafod yr asesiad gyda thîm amlddisgyblaethol CAMHS y Blynyddoedd Cynnar a byddwn yn anfon llythyr atoch yn crynhoi'r asesiad yn gryno gan ddarparu cynllun ar gyfer y camau nesaf.
Ymyrraeth
Os byddwn yn penderfynu gyda chi y byddai'n ddefnyddiol i ni gwrdd â chi am gymorth therapiwtig. Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad i drafod yr ymyriad therapiwtig a threfnu nifer penodol o apwyntiadau. Bydd yr apwyntiadau hyn fel arfer yn digwydd mewn Canolfan Deulu Dechrau'n Deg neu yng Nghanolfan Iechyd Plant Maelor Wrecsam.
Cwestiynau Cyffredin
I ble rwy'n mynd? Sut mae dweud wrthych fy mod wedi cyrraedd?
Bydd hyn yn dibynnu ar yr ardal lle rydych yn byw gan ein bod yn defnyddio nifer o leoliadau cymunedol gan gynnwys canolfannau Dechrau'n Deg. Bydd derbynnydd yn y ganolfan a fydd yn hysbysu eich clinigwr CAMHS Blynyddoedd Cynnar eich bod wedi cyrraedd.
Oes angen i mi ddod ag unrhyw beth i'm hapwyntiad?
Bydd y llythyr apwyntiad yn dweud wrthych os oes yn rhaid i chi ddod â'ch plentyn neu os mai apwyntiad ar eich cyfer chi fel rhiant neu ofalwr ydyw. Nid oes angen i chi ddod ag unrhyw beth arall i'r apwyntiad.
Alla i ddod â rhywbeth i fy nghysuro i fy apwyntiad?
Wrth gwrs, os byddai hynny'n ddefnyddiol i chi. Rydym yn hapus i gymryd seibiannau neu wneud addasiadau i’r apwyntiad os oes angen, rhowch wybod i ni.
A yw'n wasanaeth cyfrinachol?
Ydi. Rydym ond yn rhannu gwybodaeth gyda gwasanaethau eraill lle rydych wedi cytuno i ni wneud hynny, neu os oes gennym bryderon am ddiogelwch plentyn neu oedolyn. Byddem yn anelu at drafod hyn gyda chi os mai dyma'r achos.