Neidio i'r prif gynnwy

Gofal y Fron

Mae ein Gwasanaeth Gofal y Fron yn cynnwys tri thîm amlddisgyblaethol o feddygon ymgynghorol a nyrsys sydd â gwybodaeth arbenigol a’r sgiliau i roi diagnosis a thrin problemau â’r fron mewn merched a dynion.    

Mae pob tîm yn cynnwys llawfeddygon, radiolegwyr, patholegwyr, oncolegwyr a nyrsys arbenigol.  Mae’r tri thîm Gofal y Fron wedi eu lleoli yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam.

Nod ein timau Canser y Fron yw darparu gofal arbenigol, yn canolbwyntio ar y claf ar gyfer cleifion sydd â phroblemau gyda’r fron.

Efallai eich bod wedi eich cyfeirio gan eich Meddyg Teulu oherwydd eich bod wedi sylwi ar rywbeth gwahanol ynglŷn â’ch bronnau, lwmp efallai neu newid mewn edrychiad. Fel arall efallai eich bod wedi cael eich cyfeirio gan y gwasanaeth sgrinio canser cenedlaethol Bron Brawf Cymru, yn dilyn mamogram sgrinio ac ymchwiliadau pellach, oherwydd iddynt ddod o hyd i abnormaledd yn eich bron sydd angen triniaeth.

Gwybodaeth am Glinigau’r Fron