Neidio i'r prif gynnwy

Beth i'w ddisgwyl gan y rhaglen adsefydlu cardiaidd

Pam y gallech gael eich cyfeirio at y rhaglen adsefydlu cardiaidd?

Mae adsefydlu cardiaidd ar gyfer y rhai sydd wedi cael:

  • Trawiad ar y galon
  • Angioplasti coronaidd (balŵn) a/neu stent
  • Llawdriniaeth ar y galon gan gynnwys llawdriniaeth ddargyfeiriol ar y rhydwelïau coronaidd, trwsio/newid falf
  • Rhai pobl sydd ag angina neu fethiant y galon

Ni all cleifion fynychu'r rhaglen adsefydlu cardiaidd heb gael eu cyfeirio. Gofynnwch i'ch meddyg teulu neu nyrs am ragor o wybodaeth os ydych chi'n teimlo y byddech chi'n elwa o'r gwasanaeth hwn.

Gwybodaeth am y broses

Bydd ein tîm yn cysylltu â chi dros y ffôn o fewn ychydig ddyddiau i chi gyrraedd adref.

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi am eich digwyddiad/llawdriniaeth ar y galon gan gynnwys y symptomau a oedd gennych a symptomau sydd gennych ar hyn o bryd. Bydd y sgwrs hon yn digwydd mewn galwad ffôn ond mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i ni eich gweld.

Byddwn yn eich helpu i ddeall eich cyflwr ac yn rhoi gwybodaeth am feddyginiaethau. Byddwn hefyd yn trafod eich hanes meddygol a ffordd o fyw gan gynnwys gweithgaredd corfforol ac ymarfer corff, delio â straen, arferion bwyta gwell, a dychwelyd i'r gwaith. Mae hyn yn ein helpu i nodi unrhyw gymorth pellach y gallai fod ei angen arnoch gan wasanaethau arbenigol, fel rheoli pwysau, deieteteg, neu roi'r gorau i ysmygu.

Byddwn yn rhoi pecyn croeso i chi a fydd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol am beth i'w ddisgwyl yn ein gwasanaeth adsefydlu cardiaidd.

Sesiynau ymarfer corff ar gyfer adsefydlu cardiaidd

Rydym yn cynnig rhaglen ymarfer corff gyda'n ffisiolegwyr ymarfer corff sy'n rhoi cyngor ymarfer corff penodol i chi, bydd hyn yn dibynnu ar lefel eich ffitrwydd, eich nodau a'ch anghenion ar hyn o bryd. Gallwch ddewis mynychu sesiynau ymarfer corff grŵp dan oruchwyliaeth neu raglen ymarfer corff yn eich cartref.

Mae ymarfer corff a gweithgaredd corfforol yn rhan bwysig o adferiad y galon.

Sesiynau gwybodaeth ar adsefydlu cardiaidd

Law yn llaw â’r sesiynau ymarfer corff, byddwch yn cael eich gwahodd i fynychu sesiynau gwybodaeth i gleifion. Mae’r sesiynau hyn yn rhoi gwybodaeth am y canlynol:

  • Gweithgaredd corfforol ac ymarfer corff - Manteision gweithgaredd ac ymarfer corff gan gynnwys cyngor ar ba mor aml, dwyster a pha fath o ymarfer corff i’w wneud
  • Rheoli straen - Byddwn yn eich helpu i edrych ar broblemau a dod o hyd i ffyrdd i helpu
  • Byw gyda chlefyd y galon – Edrych ar y ffactorau sy'n cyfrannu at broblemau'r galon a dod o hyd i ffyrdd i reoli iechyd eich calon
  • Deall meddyginiaethau ar gyfer eich calon - Gwybodaeth am feddyginiaethau eich calon a thrafod y manteision a'r sgil-effeithiau posibl. Gallwch ddysgu mwy am feddyginiaethau’r galon yma
  • Bwyta ar gyfer calon iach - Dysgu sut i fod yn garedig i'ch calon trwy fwyta'n iach. Byddwn yn eich helpu chi a’ch teulu i ystyried opsiynau ar gyfer prydau ‘i godi’ch calon’
  • Dulliau cynnal bywyd brys sylfaenol - Gwella eich ymwybyddiaeth o beth i'w wneud mewn sefyllfa o argyfwng. Deall pwysigrwydd CPR a sut i wneud cywasgiadau ar y frest
  • Cefnogaeth ar gyfer rhaglen ymarfer corff yn y cartref - Trafod sut i wneud ymarferion yn ddiogel yn eich cartref

Byddwch yn cael rhagor o wybodaeth am ddyddiad ac amser eich galwad ffôn cychwynnol gyda'r tîm adsefydlu cardiaidd.