Neidio i'r prif gynnwy

Adsefydlu Cardiaidd

Mae'r dudalen hon yn cael ei datblygu.

Mae adsefydlu cardiaidd yn rhaglen wedi'i theilwra ac mae’n cynnwys sesiynau ymarfer corff a gwybodaeth i'r rhai sydd wedi cael diagnosis o gyflwr penodol ar y galon ac/neu ar ôl llawdriniaeth ar y galon. Mae adsefydlu cardiaidd yn rhoi’r wybodaeth, y cymorth a’r cyngor sydd ei angen ar gleifion er mwyn dychwelyd i fywyd bob dydd.

Mae ein tîm yn cynnwys arbenigwyr fel nyrsys, ffisiolegwyr ymarfer corff, therapyddion galwedigaethol, gweithwyr cymorth, fferyllwyr a deietegwyr.

Beth yw manteision adsefydlu cardiaidd?

  • Lleihau'r risg o ddigwyddiadau cardiaidd pellach yn sylweddol
  • Lleihau derbyniadau i'r ysbyty
  • Gwella ansawdd bywyd cleifion sydd wedi profi amryw o broblemau cardiaidd
  • Cefnogi agweddau seicolegol o fyw gyda chyflwr y galon
  • Derbyn rhaglen wedi'i thargedu sydd yn addas ar gyfer anghenion