Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Tywyn

Cyfeiriad: Ysbyty Tywyn, Ffordd Bryn Hyfryd, Tywyn, Gwynedd, LL36 9HH
Rhif Ffôn: 03000 850 026

Gwasanaethau Ysbyty

  • Ffisiotherapi Cleifion Allanol a Mewnol
  • Therapi Galwedigaethol
  • Podiatreg
  • Nyrsys Ardal
  • Ymwelwyr Iechyd
  • Ystafell Driniaeth (Drwy gyfeiriad yn unig o ddydd Llun i ddydd Gwener: 9am-1pm) 
  • Nyrsys Gofal Lliniarol
  • Uned Geni
  • Awdioleg 
  • Cardioleg 
  • Diabetig 
  • Gynaecoleg 
  • Offthalmoleg
  • Orthopedig 
  • Pediatrig 
  • Llawfeddygol 
  • Meysydd Golwg 
  • Pelydr-X 

Uned Mân Anafiadau (MIU)

Mae gwybodaeth am yr Uned Mân Anafiadau ar gael yma.

Ymweliadau ag Ysbytai

Mae gwybodaeth am ymweld â'n safleoedd ysbyty ar gael yma. 

Mae pob un o'n safleoedd ysbyty yng Ngogledd Cymru yn ddi-fwg, gallai unrhyw un sy'n cael ei ganfod yn torri'r gyfraith trwy ysmygu ar diroedd ysbytai wynebu dirwy o £100, y gellir ei gorfodi'n gyfreithiol.

Sut i gyrraedd

Mewn car: O Gaernarfon, dilynwch yr A487 am Borthmadog. Dilynwch yr A470 i Ddolgellau a throwch i'r dde ar yr A493. Dilynwch y ffordd yma nes dowch i Dywyn. Mae Ysbyty Tywyn ar gyffordd Ffordd Cadfan/ Ffordd Bryn Hyfryd.

Ar drên: Mae Gorsaf Tywyn lai na 1 milltir o Ysbyty Tywyn. Am wybodaeth ynghylch teithio ar y rheilffordd, ewch i: Traveline Cymru

Ar fws: Mae arhosfa bysys y tu allan i'r ysbyty ac mae gwasanaeth rheolaidd. Am fwy o wybodaeth, ewch i: Traveline Cymru