Neidio i'r prif gynnwy

Uned Llygaid Stanley, Abergele

Nid oes unrhyw wasanaethau brys galw i mewn yn Abergele gan y bydd angen i'r holl gleifion gofal heb ei drefnu ymlaen llaw ffonio'r nyrs brysbennu er mwyn trefnu slot amser addas neu cânt eu cyfeirio at safleoedd optegwyr sydd wedi cofrestru â Gwasanaeth Gofal Llygaid Cymru sydd wedi’u hyfforddi i asesu a thrin rhai symptomau a chyflyrau offthalmig.  Y tu allan i oriau agor yr uned, dylai achosion brys yn ymwneud â llygaid fynd i'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd.

Ar agor:
O ddydd Llun i Ddydd Gwener 8.30am – 5.00pm
Dydd Sadwrn 9.00am – 12.00pm
Cyswllt: 03000 850066

Cyfleuster IVT
Mae gennym uned bwrpasol sy’n cynnig asesu clinigol ac ardal driniaeth yn y cyfleuster IVT ar gyfer y cleifion hynny â dirywiad macwlaidd sy'n gysylltiedig â henaint (AMD).  Mae gwasanaethau Swyddogion Cyswllt y Clinig Llygaid (ECLO) wedi’u lleoli yma hefyd sy’n helpu cleifion ag anawsterau ar y golwg i ddod o hyd i wasanaethau cymorth yn y lleoliad gofal cychwynnol (y gymuned).

Gwasanaethau Gofal Cychwynnol

Caiff sesiynau Gofal Cychwynnol sy’n cael eu trefnu bob dydd eu rheoli gan swyddog meddygol penodol a fydd yn gweld cleifion sy’n cael eu cyfeirio fel achosion brys i'r Uned.  Caiff cyfeiriadau o ysbytai eraill eu trosglwyddo bob amser at y Meddyg Gofal Cychwynnol/ Meddyg sydd ar alwad (cyfeiriadau rhwng meddygon).  Efallai y bydd rhai Meddygon Teulu neu Optometryddion yn gofyn am gael siarad â meddyg hefyd. 

Mae tîm o Ymarferwyr Nyrsio Offthalmig, sy’n rhoi gofal a chymorth yn ôl yr angen, yn cefnogi’r adran.  Gall ymarferwyr asesu, rhoi diagnosis, trin a rhagnodi meddyginiaeth at amrywiaeth o gyflyrau segment blaen gan ddefnyddio cyfarwyddebau grwpiau cleifion.

Yn achos cyflyrau sy’n effeithio ar y segment ôl, mae ymarferwyr yn cofnodi hanes y claf ac yn cynnal archwilio golygol cyn cyfeirio at staff meddygol.  Ar hyn o bryd, mae ymarferwyr yn gweld rhyw 60% o gleifion gofal llygaid mewn apwyntiadau annisgwyl.

Gall Ymarferwyr Nyrsio archwilio/rhoi diagnosis a thrin y canlynol, gan ddefnyddio cyfarwyddebau’r Grŵp Cleifion a phrotocolau cytûn.

  • Llygad y Weldiw
  • Bleffaritis
  • Llosgiadau Cemegol (Heb fod yn ddifrifol)
  • Llid yr amrant
  • Syst cadw cyfbilennol
  • Crafiad cornbilennol
  • Epitheliwm cornbilennol (yn llac/angen digramennu)
  • Corffyn estron cornbilennol
  • Pwythau cornbilennol (yn llac, wedi torri neu’n ymwthio allan)
  • Llygad sych
  • Herpes simplecs
  • Herpes Soster

Mae pum safle ymylol wedi’u rheoli ac mae’r rhain yn y lleoliadau a ganlyn

  • Ysbyty Cymuned Bae Colwyn
  • Ysbyty Cymuned Glannau Dyfrdwy
  • Ysbyty Cymuned Treffynnon
  • Ysbyty Cymuned Yr Wyddgrug
  • Ysbyty Cymuned Rhuthun

Clinigau Cleifion Allanol

Lleolir y prif glinig ar safle Ysbyty Abergele.  Mae gan yr adran nifer sylweddol o brif ystafelloedd ymgynghori.  Mae ystafell driniaeth ac ystafelloedd dadansoddi maes yn yr adran.  Mae'r ystafelloedd laser yn darparu cyfleusterau Argon ac Yag, ystafelloedd delweddu digidol sy’n cynorthwyo'r gwasanaeth angiograffi fflwroscein – sydd ei angen bob dydd ym mhob clinig. Mae clinigau Orthoptig, Lensys Cyffwrdd a Chymorth ar gyfer Nam ar y Golwg hefyd yn cael eu cynnal yn Abergele. 

Uned Gofal Dydd
Oriau agor gofal dydd:
  O ddydd Llun hyd at ddydd Gwener O 7.30am hyd at 6.00pm

Mae gan yr uned gyfleusterau yn bennaf ar gyfer cleifion sy’n cael llawdriniaeth fel gofal dydd wedi’i drefnu ymlaen llaw ac mae 16 o gadeiriau cyfforddus ar gael yno.  Mae dau wely ar gael yn yr uned ar hyn o bryd ar gyfer dod dros anesthetig a nyrsio ataliol pan fydd angen.  Mae ystafell driniaeth fach, ystafell lieiniau, cegin ac ystafell ymgynghori ar gael.  Mae ardal asesu Cyn Llawdriniaeth ar gael sy’n cynnig preifatrwydd er mwyn i gleifion gael eu hasesu ac mae hyn yn caniatáu cynnal trafodaeth er mwyn cynorthwyo o ran derbyniadau achosion dydd llawfeddygol wedi’u trefnu ymlaen llaw.

Ystafelloedd Theatr
Mae dwy theatr gofal arbenigol wedi’u lleoli’n agos at yr uned gofal dydd.  Mae ardaloedd llawdriniaeth annibynnol a’r peiriannau ffaco-emwlseiddio diweddaraf ar gael yn y ddwy ystafell theatr ac mae cyfleusterau laser HGM Elite KTP ar gael yn theatr 1. Mae cyfleoedd fideo a gwylio ar sgriniau clos hefyd ar gael yn y theatr hon.