Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Abergele

Cyfeiriad: Ffordd Llanfair, Abergele, Conwy, LL22 8DP
Rhif Ffôn: 01745 583 910

Gwasanaethau Ysbyty

  • Uned Llygaid Stanley
  • Gwasanaeth Glasoed Gogledd Cymru
  • Orthopedeg (llawdriniaethau wedi'u cynllunio a gwasanaeth ailsefydlu ar ôl llawdriniaeth)
  • Digwyddiadau corfforaethol, fel Datblygu'r Gweithlu a'r Sefydliad, Hyfforddi Staff, Cyllid a Gwybodeg 

Cyfleusterau

Mae Cyfeillion Ysbyty Abergele yn rhedeg ‘Lolfa Manceinion' sy'n cynnig lluniaeth ysgafn.  Mae ar agor 10am – 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. 

Ymweliadau ag Ysbytai

Mae gwybodaeth am ymweld â'n safleoedd ysbyty ar gael yma. 

Mae pob un o'n safleoedd ysbyty yng Ngogledd Cymru yn ddi-fwg, gallai unrhyw un sy'n cael ei ganfod yn torri'r gyfraith trwy ysmygu ar diroedd ysbytai wynebu dirwy o £100, y gellir ei gorfodi'n gyfreithiol.

Sut i gyrraedd

Ar y ffordd: Gadewch yr A55 yng Ngyffordd 24 a dilyn yr arwyddion am Ruddlan ac Abergele. Ymunwch â'r A548 drwy gymryd y drofa gyntaf oddi ar y gylchfan ac ymlaen am ganol tref Abergele. Ewch ymlaen drwy’r set gyntaf o oleuadau traffig ac yn yr ail set o oleuadau, trowch i’r chwith a pharhau ar yr A548 (arwydd Llanfait TH, Llanrwst ac Ysbyty Abergele). Mae Ysbyty Abergele oddeutu milltir i ffwrdd ac fe welwch arwydd i droi i'r chwith. Ewch i fyny'r ffordd ac mae meysydd parcio bob pen i'r safle. Mae'r brif fynedfa ger y maes parcio cyntaf.

Ar y trên: Mae'r orsaf drenau agosaf yn Abergele/ Pensarn; I gael gwybodaeth am gludiant trenau, ewch i Traveline Cymru

Ar y bws: Mae gwasanaeth bws rheolaidd yn syth i mewn i dir yr ysbyty. I gael mwy o wybodaeth, ewch i Traveline Cymru