Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am ryddhau cleifion

Rydych yn feddygol iach i gael eich rhyddhau pan fydd aelodau'r tîm yn cytuno nad oes arnoch angen gofal ysbyty mwyach. Bryd hynny, cewch eich rhyddhau. 

Cyn gynted ag y bydd gofal y claf gyda ni'n dechrau, byddwn yn dechrau cynllunio at ei ryddhau naill ai'n ôl adref neu at ysbyty cymunedol. Mae'r rhan fwyaf o gleifion yn dychwelyd adref yn syth ar ôl derbyn gofal yn un o'n hysbytai. Caiff hyn ei drafod o fewn 24 awr i'ch derbyn i'r ysbyty. 

Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, efallai y byddwn yn gofyn cwestiynau am gartref claf a sut y gwnaeth lwyddo i fyw'n annibynnol cyn dod atom am ofal. Os ydych yn glaf, mae'n bwysig eich bod yn rhannu gyda ni unrhyw resymau pam rydych chi'n credu y bydd yn anodd i chi ddychwelyd adref, fel y gallwn geisio cymorth gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwasanaethau cymdeithasol. 

I roi cymorth o ran eich rhyddhau

  • Rhannwch wybodaeth gyda ni am eich cynlluniau i ddychwelyd adref
  • Gofynnwch i'ch teulu ddod â phethau ymolchi a dillad dydd yn barod i chi
  • Os yw'n bosibl, codwch a gwisgwch gan roi eich dillad dydd amdanoch
  • Os yw'n bosibl, ceisiwch barhau i symud yn yr ysbyty, eisteddwch ar gadair yn hytrach nag mewn gwely
  • Dylech ddeall unwaith rydych wedi cael eich trin a'i fod wedi'i gadarnhau eich bod yn feddygol iach i gael eich rhyddhau, na chewch aros yn yr ysbyty mwyach