Mae TRICORDER yn gydweithrediad rhyngom ni, System Gofal Integredig GIG Gogledd Orllewin Llundain ac Imperial College London .
Mae'n edrych i benderfynu a yw darparu Eko DUO, offeryn asesu cardiaidd sy'n gweithredu fel electrocardiogram (ECG) a stethosgop digidol, yn gwella canfod methiant y galon yn gynnar i gleifion, ac a yw hyn yn arbed arian i’r GIG, drwy recriwtio practisau meddygon teulu ar draws Gogledd Orllewin Llundain a Gogledd Cymru i hap-dreial clwstwr rheoledig – lle bydd hanner yn cael eu dewis ar hap i dderbyn yr Eko DUO, ac ni fydd yr hanner arall yn ei dderbyn.
Mewn practisau sydd â mynediad at Eko DUO, byddwn yn mesur a yw hyn yn gysylltiedig â gwelliant mewn canfod methiant y galon, gostyngiad mewn diagnosis trwy dderbyniadau brys i'r ysbyty, a gostyngiad mewn costau GIG.