Neidio i'r prif gynnwy

Stori Nikki Bailey

“Mae fy meddyg ymgynghorol a’r tîm treialon clinigol wedi gwneud y daith gyfan yn llawer haws ei goddef.”

Cafodd Nikki Bailey ddiagnosis o lewcemia lymffosytig cronig sef math o ganser y gwaed. Trwy gymryd rhan mewn treialon clinigol, cafodd ddwy driniaeth newydd o gyffuriau yn hytrach na chemotherapi, gan olygu y gallai barhau a'i bywyd bob dydd.

Yn 2020, gofynnodd Dr Lally DeSoysa, meddyg ymgynghorol Nikki, a hoffai hi gymryd rhan mewn treial clinigol o’r enw FLAIR. Mae'n dreial cam 3, ar hap sy’n ceisio gweld a yw cyfuniad o gyffuriau sy’n cynnwys ibrutinib yn gweithio’n well na’r driniaeth safonol ar gyfer lewcemia lymffosytig cronig.

Roedd y treial yn cynnwys tair triniaeth wahanol. Y cyntaf oedd y driniaeth arferol, cemotherapi oedd yr ail, ac roedd y drydedd driniaeth a roddwyd i Nikki, yn cynnwys dau gyffur - ibrutinib a venetoclax.

Dywedodd Nikki: “Pe bawn i wedi cael cemotherapi, byddai wedi ymyrryd ar fy mywyd, ac wrth i mi wella wedi hynny. Dw i wedi bod yn cymryd cyffuriau wedi’u targedu gartref bob dydd a dw i'n cael profion gwaed bob tri mis. Dw i wedi gallu bwrw ymlaen efo fy mywyd, felly fyddai pobl ddim wedi gwybod.

“Os na fyddwn i wedi cael cynnig cymryd rhan yn y treial hwn, fe fyddwn i wedi cael cemotherapi ac fe fyddai fy mywyd wedi bod yn wahanol iawn. Mae'r cyffuriau a gymerais i yn targedu proteinau penodol o fewn y celloedd canser tra bod cemotherapi yn taro holl gelloedd gwyn y corff.

“Dw i'n gweld fy meddyg ymgynghorol bob 3 mis i gael prawf gwaed ac archwiliad corfforol a dw i wedi cael sganiau CT a dau fiopsi mêr esgyrn.

“Mae cael triniaeth gartref wedi golygu fy mod i'n gallu rheoli fy mywyd o ddydd i ddydd gymaint yn well a pharhau i fyw fy mywyd i’r eithaf.”