Neidio i'r prif gynnwy

Pam y penderfynais gymryd rhan yn astudiaeth SWEET

Daeth Clare o hyd i lwmp yn ei bron ym mis Ebrill 2024, a chafodd ei chyfeirio at yr ysbyty gan ei Meddyg Teulu am famogram a biopsi. Dywedodd nad oedd wedi synnu gan y diagnosis a ddeilliodd o hyn, gan fod ei dwy fodryb wedi datblygu canser y fron.

Cafodd fastectomi ym mis Mehefin y llynedd, yn ogystal â chemotherapi a radiotherapi. Cafodd wedyn driniaeth hormonau, a all arwain at brofi sgil effeithiau. Gwnaeth hyn Clare yn gymwys ar gyfer astudiaeth ymchwil o’r enw ‘SWEET’ (Supporting Women with AdhErence to Hormone Therapy) sy’n cefnogi merched gyda chadw at therapi hormonau yn dilyn canser y fron. Fel rhan o’i gofal, cafodd Clare wybodaeth ysgrifenedig a gwybodaeth lafar am yr astudiaeth.

Mae rhaglen SWEET wedi profi a datblygu pecyn cymorth HT&Me. Mae pecyn cymorth HT&Me yn cynnwys:

  • Fideo animeiddio byr yn esbonio sut y mae therapi hormonau yn gweithio, pam ei bod yn bwysig ei gymryd yn ddyddiol a chyngor ar sut i reoli sgil effeithiau.
  • Dau apwyntiad gyda nyrsys/ymarferwyr astudiaeth HT&Me.
  • Mynediad at wefan ryngweithiol HT&Me, sydd ar gael ar gyfrifiadur, gliniadur, dyfais glyfar neu ffôn symudol.
  • Negeseuon testun neu e-bost rheolaidd yn atgoffa pobl o bwysigrwydd therapi hormonau a chyfeirio pobl yn ôl at wefan HT&Me.

Mae’r treial rheoledig ar hap hwn bellach ar waith i ymchwilio i effeithiolrwydd HT&Me wrth leihau ymlyniad gwael i therapi hormonau a gwella ansawdd bywyd merched sydd â chanser y fron cynnar.

Mae safleoedd recriwtio ar gyfer y treialon bellach ar agor ar draws y DU. Rydym yn dymuno recriwtio cyfanswm o 1,460 o ferched sydd â chanser y fron cynnar, a fydd yn cael eu dewis ar hap i dderbyn naill ai:

  1. pecyn cymorth HT&Me ochr yn ochr â’u gofal arferol

neu

  1. gofal arferol yn unig

 

Gofynnir i ferched gwblhau holiadur pan fyddant yn cofrestru ar gyfer yr astudiaeth (llinell sylfaen), ac yna eto ymhen 6, 12 a 18 mis. Bydd yr holiaduron hyn yn mesur ymlyniad i therapi hormonau, ansawdd bywyd, a ffactorau eraill a allai effeithio ar effeithiolrwydd y pecyn cymorth HT&Me.

Dywedodd Clare: “Mae’r astudiaeth yn fy helpu i gadw fy nghymhelliant i barhau â fy meddyginiaethau. Mae’n ymwneud â chydnabod y pethau yr wyf angen eu gwneud i gadw’n iach nawr fy mod yn cael triniaeth hormonau. Mae gennyf feddyginiaethau ar gyfer MS a meddyginiaethau oherwydd canser y fron, ac mae’r cymorth ychwanegol a gaf drwy fod yn rhan o’r astudiaeth wedi bod o gymorth mawr.”

Mae tîm ymchwil Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i chwilio am gleifion cymwys i gymryd rhan. Am fwy o wybodaeth am dreial SWEET, cysylltwch â’r tîm ar: SWEET@warwick.ac.uk.