Mae gallu deall beth mae pobl eraill yn ei ddweud yn golygu gwybod beth yw ystyron geiriau, cysylltu geiriau â geiriau eraill a dilyn cyfarwyddiadau, deall cwestiynau a dehongli a dirnad gwybodaeth.
I allu deall a dirnad iaith, mae angen i blant hefyd allu rhoi sylw i beth mae pobl eraill yn ei ddweud, nodi'r rhannau allweddol a chynnal gwybodaeth yn eu meddwl tra byddant yn ei phrosesu. Byddant yn gwneud hyn gan geisio ffurfio iaith i'w galluogi i ddweud a chynllunio camau gweithredu ac ymatebion ar sail beth fydd rhywun yn ei ddweud wrthynt neu'n ei ofyn iddynt.
Pethau a all effeithio ar allu plant i ddeall:
Sut all plant ymateb pan fyddant yn cael trafferth deall
Sut i helpu plant i ddeall iaith
Pwyllwch: Rhowch gyfle i blant wrando a phrosesu beth sy'n cael ei ddweud. Os byddwch yn siarad yn arafach ac yn oedi rhwng ymadroddion, bydd hi'n haws i blant ddal i fyny.
Symleiddiwch bethau: Wrth i chi siarad, eglurwch eiriau yn gryno, neu dewiswch eiriau haws/mwy cyfarwydd er mwyn sicrhau na wnaiff geiriau anodd atal y plentyn rhag deall beth fyddwch yn ei ddweud. E.e. ‘cynefin, mae'n golygu lle mae rhywbeth yn byw’.
Byddwch yn gryno: Trwy sicrhau fod cyfarwyddiadau ac esboniadau yn gryno, bydd hi'n haws i blant ddeall beth fydd yn cael ei ddweud. Mae'n well dweud llai. Po fwyaf y byddant yn ei glywed, y mwyaf y bydd yn rhaid iddynt gofio, a daw pethau'n fwy dryslyd fyth yn sgil hynny.
Rhannwch bethau'n gamau: Os byddwch chi'n gofyn i'ch plentyn wneud nifer o bethau, neu'n egluro rhywbeth anodd, ceisiwch rannu pethau'n dalpau llai neu'n gamau unigol. Rhowch gyfle i'ch plentyn gwblhau'r cam cyntaf cyn dweud rhywbeth arall.
E.e. ‘Dos i nôl dy fag’ (rhowch gyfle i'ch plentyn fynd i nôl ei fag), ‘Rŵan, chwilia am dy lyfr darllen’.
Ailadroddwch dro ar ôl tro: Bydd angen digonedd o ymarfer i ddeall geiriau a chysyniadau a sicrhau eu bod yn 'glynu' ym meddwl eich plentyn. Os byddwch chi'n esbonio cyfarwyddyd fwy nag unwaith, bydd eich plentyn yn cael mwy o gyfleoedd i ddeall beth i'w wneud.
Helpwch eich plentyn i nodi cysylltiadau: Mae gallu nodi cysylltiadau rhwng geiriau a syniadau yn elfen bwysig o ddysgu iaith. Ceisiwch esbonio'r cysylltiadau am bethau a chwiliwch am bethau cysylltiedig. Trafodwch bethau sydd 'yr un fath' a phethau sy'n 'wahanol'. Er enghraifft, wrth wylio buwch yn pori mewn cae, trafodwch rannau gwahanol y fuwch, beth mae'n ei wneud, ble mae'r fuwch a sut mae'r pethau hynny yr un fath neu'n wahanol o gymharu ag anifeiliaid eraill y byddwn yn eu gweld.
Sicrhewch fod eich plentyn yn deall: Peidiwch â gofyn i'ch plentyn a yw'n deall (mae'n debyg y gwnaiff ddweud ei fod yn deall, hyd yn oed pan na fydd yn deall). Mae llawer o blant sydd ag anawsterau iaith yn gallu cuddio'u hanawsterau'n dda iawn. Gofynnwch i'ch plentyn ddangos neu ddweud wrthych chi beth yw ystyron geiriau neu beth sy'n rhaid iddynt ei wneud.