Pam mae chwarae'n bwysig?
Mae chwarae yn cynnig cyfle gwych i blant ddysgu. Nid yw plant yn sylweddoli hynny, ond mae chwarae yn ddefnyddiol i wella eu sgiliau echddygol, eu sgiliau rhyngweithio cymdeithasol, a'u gallu i gymryd troeon a chopïo synau a chamau gweithredu. Gall hefyd gynorthwyo i ddatblygu dealltwriaeth, defnydd o iaith, y gallu i ganolbwyntio a sgiliau gwrando a'r dychymyg. Bydd hyn oll yn digwydd tra bydd y plant yn mwynhau chwarae, a dyna pam mae chwarae yn offeryn mor wych at ddiben dysgu.
Chwarae ac Iaith.
- Bydd chwarae yn annog cymryd troeon. Er mwyn dod yn gyfathrebwyr llwyddiannus, bydd yn rhaid i blant gyfranogi mewn rhyngweithio dwyffordd. Gallwch chi ymgorffori 'dy dro di, yna fy nhro i' mewn unrhyw weithgaredd chwarae fwy neu lai.
- Mae'n hawdd ymateb i chwarae, hyd yn oed heb eiriau. Gall hyd yn oed plant sydd â sgiliau iaith cyfyngedig gyfranogi mewn chwarae. Os oes gennych blant sydd ag iaith gyfyngedig neu sy'n siaradwyr anfodlon, gallwch ddefnyddio llawer o weithgareddau chwarae sy'n cynnwys symudiadau corfforol, e.e. canu 'Os ti'n hapus ac yn gwybod'.
- Mae chwarae yn cwmpasu ein holl synhwyrau. Bydd plant yn fwy tebygol o ddysgu a chofio geiriau newydd os byddant yn defnyddio mwy nag un o'u synhwyrau. Er enghraifft, byddant yn fwy tebygol o gofio bwyd newydd os byddant newydd gael cyfle i'w deimlo, ei arogli a'i flasu, yn hytrach na dim ond clywed gair i ddefnyddio'r bwyd hwnnw. Bydd yr holl synhwyrau yn anfon negeseuon gwahanol i'r ymennydd a bydd hyn yn helpu'r plentyn i'w cofio.
- Mae chwarae'n ailadroddus. Mae chwarae yn cynnig cyfle delfrydol i ni ailadrodd camau, geiriau ac ymadroddion sawl gwaith. Trwy wneud hynny, bydd plant yn dysgu geiriau newydd ac yn eu cofio, a byddant yn fwy tebygol o allu eu hailddefnyddio fel rhan o'u geirfa bersonol.
Cynghorion Doeth
- Neilltuwch 15-20 munud ddwywaith y dydd mewn man tawel ar gyfer 'amser chwarae arbennig' er mwyn ymgorffori'r cynghorion doeth yn eich arferion beunyddiol.
- Dewiswch y teganau cywir: Dewiswch ychydig o deganau syml y mae'r plentyn yn hoffi chwarae â hwy. Gall fod yn ddefnyddiol iawn sicrhau fod gennych ddau o'r un tegan fel y gallwch ddangos i'r plentyn sut i chwarae â theganau os bydd chwarae yn ddyrys iddynt.
- Ewch lawr at yr un lefel â'r plentyn: Sicrhewch y gall y plentyn eich gweld yn rhwydd a chofiwch roi'r argraff fod gennych ddiddordeb yn y pethau y bydd yn eu gwneud. Bydd hyn yn dangos eich bod yn barod i chwarae.
- Anogwch y plentyn i gopïo: Gallwch chi wneud hyn trwy ddweud, 'dyma dy dro di i yrru'r car', a gafael yn llaw'r plentyn a'i gosod ar y car, cyn symud y car ar hyd y llawr.
- Defnyddiwch sylwadau syml ond cofiwch osgoi cwestiynau. Gall gofyn llawer o gwestiynau fod yn llethol. Yn lle hynny, cynigwch sylwadau syml sy'n cyd-fynd â lefel dealltwriaeth plentyn.
- Anogwch blant i gymryd troeon. Mewn grŵp bychan, chwaraewch gêm debyg i ‘Pop Up Pirate’ sy'n caniatáu i bob plentyn gael tro.
Beth os bydd y plentyn yn teimlo fod chwarae'n anodd?
Os na fydd plentyn yn ymddiddori rhyw lawer mewn chwarae, gallwch gychwyn trwy gopïo beth bynnag y bydd y plentyn yn ei wneud, a gallwch ychwanegu gweithgaredd arall pan fydd hynny'n teimlo'n briodol. Er enghraifft, os bydd y plentyn yn troi olwynion car, gallech chithau eu troi hefyd. Yna, trowch y car â'i ben i fyny a rhedwch y car ar hyd y llawr gan ddweud 'brrm, brrm'. Os bydd y plentyn yn mwynhau agor a chau drysau ar deganau, cychwynnwch â hyn ac yna ychwanegwch ddynion tegan bychan a gwnewch iddynt agor y drysau a smaliwch fynd i mewn i'r car.
Yn bwysicach na dim, cofiwch fwynhau a chael hwyl!