Mae gan dros 60% o bobl ifanc mewn lleoliadau cyfiawnder anghenion iaith, lleferydd, a chyfathrebu
Yn aml, gelwir anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu yn anabledd cudd neu anweledig oherwydd nid ydynt yn weladwy nac yn amlwg gan amlaf. O ganlyniad, anwybyddir eu harwyddocâd.
Dyma rai enghreifftiau o’r anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu sydd gan bobl ifanc:
Os oes gennych bryderon am sgiliau iaith, lleferydd neu gyfathrebu plentyn neu unigolyn ifanc o fewn y System Cyfiawnder Ieuenctid, cyfeiriwch eich pryder at eich Adran Therapi Iaith a Lleferydd lleol gan ddefnyddio’r ffurflen gyfeirio sydd ar gael ar y wefan hon.
Os hoffech gael gwybodaeth neu gyngor ynghylch a yw cyfeiriad yn briodol, gallwch gysylltu â'r adran drwy ffonio eich Llinell Gymorth Therapi Iaith a Lleferydd lleol.
Ceir rhagor o wybodaeth, cyngor a hyfforddiant ar Wefan RCSLT, Therapi iaith a lleferydd yn y system gyfiawnder | RCSLT