Lleolir gwasanaeth Therapi Galwedigaethol y Newydd-anedig o fewn Canolfan Iechyd Plant Wrecsam ac mae’n cwmpasu siroedd Wrecsam a Sir y Fflint.
Canolfan Iechyd Plant Wrecsam,
Ffordd Croesnewydd, Wrecsam,
LL13 7TD
Ffôn: 03000 848120 (Wednesday to Friday)
Mae’r gwasanaeth Therapi Galwedigaethol arbenigol hwn yn darparu asesiadau ac ymyriadau cynnar i blant sydd wedi cael eu geni cyn 32 wythnos o’r cyfnod cario neu sydd wedi eu geni o dan 1.5kg.
Darperir asesiadau a sgrinio o ran cerrig milltir datblygiadol ac ymyrraeth gynnar ar gyfer
Anghenion Osgo
Datblygiad echddygol yn cynnwys sgiliau dwylo
Anghenion synhwyraidd
Sblintio aelodau uchaf y corff
Bwydo
Gall uned y newydd-anedig gyfeirio babanod fel mater o drefn at wasanaethau therapi ar gyfer asesiad os ydynt wedi eu geni cyn 32 wythnos o’r cyfnod cario neu o dan 1.5kg.
Gellir cyfeirio babanod hefyd:
Os ydynt wedi profi problemau adeg genedigaeth megis anaf i’r ymennydd neu strôc Newyddenedigol
Bod ganddynt broblemau niwrolegol eraill neu MRI anarferol
Derbynnir cyfeiriadau:
Yn uniongyrchol o’r ward yn achos claf mewnol ar yr Uned Gofal Arbennig Babanod (SCBU)
Ystyrir cyfeiriadau cymunedol ar gyfer eu derbyn i’r gwasanaeth ar adeg derbyn ffurflen gyfeirio wedi’i chwblhau.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau parthed cyfeiriad neu os bydd angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r gwasanaeth 03000 848288
Ar gyfer babanod ar uned y newydd-anedig –
Mae’r Therapydd Galwedigaethol yn mynychu rowndiau ward wythnosol lle gallant roi cyngor a chymorth i weithwyr proffesiynol a rhieni a chwblhau unrhyw asesiadau perthnasol sydd eu hangen, yn seiliedig ar anghenion unigol y plentyn.
Ar gyfer babanod yn y gymuned -
Unwaith y’i derbynnir, caiff y cyfeiriad ei frysbennu gan aelodau’r tîm Therapi Galwedigaethol a gwneir penderfyniad a ddylid derbyn y cyfeiriad yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd ar y ffurflen.
Os caiff ei dderbyn, byddwn yn anfon holiaduron at rieni. Bydd hyn yn caniatáu i ni gael dealltwriaeth lawn o alluoedd ac anghenion y plentyn gan Therapi Galwedigaethol. Dylid dychwelyd y rhain o fewn 2 wythnos o’r dyddiad ar y llythyr.
Unwaith y byddwn yn derbyn yr holiaduron yn ôl, bydd y Therapydd Galwedigaethol yn ailwerthuso’r holl wybodaeth a ddarparwyd. Mae nifer o lwybrau, felly bydd y Therapydd Galwedigaethol yn penderfynu ar y llwybr perthnasol i’ch plentyn a chaiff asesiad cychwynnol ei gwblhau naill ai ar ffurf;
· Ymgynghoriad dros y ffôn
· Ymgynghoriad Rhithiol
· Ymgynghoriad Wyneb yn Wyneb
Ar adegau, teimlwn nad yw anawsterau’r plentyn fel y’i cyflwynir ar y cyfeiriad yn briodol ar gyfer ein gwasanaeth ac efallai y gallai gwasanaeth arall gwrdd â’u hanghenion yn well. Yn yr achosion hyn, byddwn yn ysgrifennu at y cyfeiriwr ac yn anfon copi at y rhieni er mwyn gwneud y cyfeiriad priodol.
Bethan Meacock - Therapydd Galwedigaethol Arbenigol Newyddenedigol
Leanne Dawkins - Hyfforddwr Technegol Therapi Galwedigaethol Newyddenedigol