Lleolir gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Niwroddatblygiadol o fewn Canolfan Iechyd Plant Wrecsam ac mae’n cwmpasu siroedd Wrecsam a Sir y Fflint.
Mae’r tîm Therapi Galwedigaethol Niwroddatblygiadol (NDOT) yn cynnig asesiadau ac ymyriadau ar gyfer:
Gwahaniaethau synhwyraidd sy’n effeithio ar gyfranogiad
Anghenion osgo
Materion amgylcheddol o fewn addysg
Sgiliau Echddygol Manwl
Bwydo
Hylendid wrth ddefnyddio’r Toiled
Hunanofal – brwsio dannedd, brwsio gwallt, anawsterau gwisgo ac ati
Sgiliau Siswrn
Llawysgrifen
Sblintio aelodau uchaf y corff
Offer sy’n cynorthwyo o ran y sgiliau o ddydd i ddydd uchod.
Dylai’r ffurflen gyfeirio Therapi Galwedigaethol Niwroddatblygiadol gael ei llenwi yn llawn gan y cyfeiriwr sydd â gwybodaeth uniongyrchol am anawsterau’r plentyn. Derbynnir cyfeiriadau gan rieni, gofalwyr, ysgolion a gweithwyr proffesiynol.
Os nad chi yw’r rhiant sy’n cyfeirio, mae rhwymedigaeth arnom i gael caniatâd y rhieni/gwarcheidwaid i wneud y cyfeiriad hwn at ein gwasanaeth.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth, rhaid i’r plentyn: -
Fyw neu fynychu ysgol yn Sir Wrecsam neu Sir y Fflint.
Bod yn 5-18 mlwydd oed/ darpariaeth ADY berthnasol
Bod yn profi anawsterau sylweddol gyda’u perfformiad swyddogaethol mewn meysydd galwedigaeth – hunanofal; cynhyrchiant/gweithgarwch a hamdden/chwarae
Cael diagnosis o Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASD) a/neu Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)/ Anhwylder Diffyg Canolbwyntio (ADD), neu’n aros am asesiad
Gellir cael ffurflen gyfeirio trwy gysylltu’n uniongyrchol â’r adran neu drwy ofyn i’r ysgol a oes ganddynt hwy neu’r nyrs ysgol gopi.
Unwaith y caiff ei dderbyn, bydd y cyfeiriad yn cael ei frysbennu a gwneir penderfyniad a ddylid derbyn y cyfeiriad ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd ar y ffurflen. Ar adegau teimlwn nad yw anawsterau’r plentyn fel y’i cyflwynir ar y cyfeiriad yn briodol ar gyfer ein gwasanaeth ac efallai y gallai gwasanaeth arall gwrdd â’u hanghenion yn well. Yn yr achosion hyn, byddwn yn ysgrifennu at y cyfeiriwr a’r rhieni er mwyn gwneud y cyfeiriad priodol.
Os derbynnir y cyfeiriad ar adeg brysbennu, bydd y therapydd galwedigaethol yn adolygu’r wybodaeth a ddarparwyd. Mae’r tîm Therapi Galwedigaethol Niwroddatblygiadol yn gweithio yn unol â’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru (2018) sy’n golygu ein bod yn rhoi darpariaeth gyffredinol yn y lle cyntaf ar ffurf taflenni strategaeth a dolenni ar gyfer adnoddau i’w treialu a gweithio arnynt gartref ac yn yr ysgol.
Byddwn yn anfon taflen ddyddiadur gyda’r adnoddau hyn ac yn gobeithio y gallwch eu llenwi gyda’r strategaethau yr ydych wedi’u rhoi ar brawf a rhestru’r elfennau sydd wedi teimlo’n llwyddiannus a’r rhai nad ydynt wedi bod yr un mor llwyddiannus.
Yn dilyn derbyn y daflen ddyddiadur, fe benderfynir pa ffurf o fewnbwn sydd fwyaf priodol ar eich cyfer chi a’ch plentyn. Gall hyn fod yn;
Ymgynghoriad dros y ffôn
Ymgynghoriad Rhithiol
Ymgynghoriad wyneb yn wyneb
Ymweliad Ysgol
Therapydd Galwedigaethol Arbenigol Niwroddatblygiadol Plant
Freya Hark
Therapydd Galwedigaethol Niwroddatblygiadol Plant
Brogan Roberts
Hyfforddwr Technegol Therapi Galwedigaethol Niwroddatblygiadol
Helen Beckett