Mae radioleg ymyriadol (IR) yn cyfeirio at driniaethau meddygol lleiaf ymyrrol, sy'n cael eu harwain gan ddelweddau.
Mae triniaethau o'r fath yn defnyddio technegau delweddu amser real, gan gynnwys pelydr-X, CT ac uwchsain, i arwain yr unigolyn sy'n eu gweithredu.
Pan fo'n briodol, gellir defnyddio IR fel dewis cyflymach a mwy diogel na llawdriniaethau traddodiadol, gan arwain at ganlyniadau gwell i gleifion ac arosiadau byrrach yn yr ysbyty.
Mae llawer o'r triniaethau IR yn achub bywydau neu'n newid bywydau. Mae'n bosibl eu defnyddio i dynnu ceulad gwaed sy'n achosi strôc, draenio organau â heintiau a allai fod yn farwol, neu atal gwaedu difrifol a achosir gan amrywiaeth o gyflyrau ac sy'n bygwth bywyd. Mae'r rhain yn cynnwys anafiadau trawma, gwaedlifau mewnol a phroblemau yn ystod geni babanod.
Mae triniaethau pwysig nad ydynt yn rhai brys yn cynnwys dinistrio tiwmorau canser, agor rhydwelïau cul neu sydd wedi'u rhwystro, a thrin ffibroidau poenus yn y groth.