Neidio i'r prif gynnwy

Offthalmoleg

 

Mae'r Gwasanaeth Offthalmoleg yn cynnwys Llawfeddygon Offthalmoleg Ymgynghorol, Nyrsys Arbenigol a staff cefnogi. Mae'r gwasanaeth yn cynnig gwasanaeth offthalmoleg cyffredinol sy'n trin pob math o gyflyrau cyffredin, er enghraifft glawcoma a chataract.

Cyfeirio

Fel arfer mae ein gwasanaethau ar gael drwy gyfeiriad gan Feddyg Teulu neu Optometrydd. Rydym yn cynnal clinigau cleifion allanol yn rheolaidd yn:

Ysbyty Gwynedd Ysbyty Cyffredinol Llandudno Ysbyty Cymuned Rhuthun
Ysbyty Dolgellau a Bermo Ysbyty Cymuned Bae Colwyn Ysbyty Cymuned Glannau Dyfrdwy
Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli Ysbyty Abergele Ysbyty Cymuned Yr Wyddgrug
Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi Ysbyty Cymuned Treffynnon Ysbyty Maelor, Wrecsam

Y rhesymau mwyaf cyffredin dros gael eich cyfeirio at ein gwasanaeth yw:

  • Cataractau
  • Dirywiad Macwlaidd sy'n Gysylltiedig â Heneiddio (AMD)
  • Glawcoma
  • Llygaid Sych
  • Brychau a Fflachiau
  • Systiau (mân anafiadau i'r amrant)
  • Llygaid Dyfrllyd
  • Retinopathi Diabetig
  • Llygaid Croes

Clinigau Eraill

Yn ogystal â chlinigau cleifion allanol cyffredinol, rydym yn cynnal clinigau arbenigol ar gyfer:

  • Cleifion Diabetig
  • Cleifion â Glawcoma
  • Llwybr Cataract
  • Dirywiad Macwlaidd sy'n Gysylltiedig â Heneiddio

Os bydd angen i gleifion aros dros nos yn yr ysbyty yn ystod eu triniaeth, mae gwelyau ar gael.

Mae gan yr adran gyswllt agos â’r Gwasanaeth Orthoptig y gellir cael mynediad ato drwy gyfeiriad gan y Meddyg Ymgynghorol.