"Roeddwn i am gael genedigaeth yn y cartref gyda'm babi cyntaf, gan fod hyn yn ystod Covid-19 ac roeddwn i eisiau bod yng nghysur fy nghartref fy hun, ond roedd yr esgoriad yn un hir felly ar ôl rhyw 24 awr, fe es i i mewn i'r ysbyty i dderbyn mwy o foddion lleddfu poen.
"Doeddwn i ddim wir yn teimlo'n gyfforddus am orfod mynd i mewn i'r ysbyty i roi genedigaeth, felly pan oeddwn i'n cael fy ail fabi roeddwn i'n dal yn awyddus i roi genedigaeth yn y cartref, ac roedd fy mydwraig yn gefnogol iawn o'm dewis i.
"Rydw i'n meddwl i mi fod yn fwy cyfforddus yn cynllunio'r cyfan yr ail waith a wnes i ddim rhoi gormod o bwysau arna' i fy hun, oherwydd mae modd cynllunio genedigaeth yn y cartref ond os byddwch chi'n penderfynu eich bod chi eisiau mynd i mewn i'r ysbyty, gallwch chi wneud hynny. Rhoddais enedigaeth i Barney gartref ac roedd popeth wedi gweithio'n berffaith, aeth popeth yn union fel yr oeddwn i wedi gobeithio.
"Roeddwn i'n teimlo'n gyfforddus ac yn fodlon iawn am fod gartref ac roedd gen i reolaeth dros bwy oedd yno gyda mi a'r hyn oedd o'm hamgylch i. Roedd hefyd yn wych bod fy mydwraig gymunedol Helen yn gallu bod yno ar gyfer yr enedigaeth hefyd, nid yw hynny'n digwydd pan fyddwch chi'n rhoi genedigaeth yn yr ysbyty, ac roedd Helen a'r tîm yn wych."