Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) yn wasanaeth arbenigol sy’n canolbwyntio ar helpu plant a phobl ifanc sy'n cael trafferth gydag emosiynau, ymddygiadau ac anawsterau seicolegol eraill. Gall y mathau o faterion a gyflwynir inni gynnwys: pryder, ofn a phanig, hwyliau isel, tristwch ac iselder ysbryd, teimlo'n unig, galar ar ôl profedigaeth neu golled, dicter, materion yn ymwneud â gwahanu, bwlio, anawsterau teuluol, bwyta llai na'r arfer neu orfwyta, meddwl am hunanladdiad neu hunan-niweidio - rhai yn unig o'r materion a'r symptomau a allai arwain at geisio cymorth gennym.
Mae CAMHS yn cynnig cefnogaeth gynhwysfawr i deuluoedd a'u plant o'u genedigaeth hyd at 18 mlwydd oed. Mae CAMHS yn cael ei staffio gan dimau amlddisgyblaethol sy'n cynnwys Ymarferwyr CAMHS, Nyrsys, Seiciatryddion Plant, Seicolegwyr Clinigol, a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Cynigir cymorth trwy weithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc a theuluoedd a/neu waith anuniongyrchol law gyda, ac ochr yn ochr, â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd ac asiantaethau eraill. Mae’r broses yn cynnwys cydweithio, cyfeirio, gwaith grŵp, ymgynghori proffesiynol, hyfforddiant a/neu drefniadau gyda phartneriaethau amlasiantaethol.
Yn yr un modd ag oedolion, mae plant a phobl ifanc hefyd yn dioddef o straen, pryder neu iselder ysbryd ac mae'n bwysig ceisio cael cymorth yn gynnar os byddwch chi'n sylwi ar unrhyw anawsterau. Mae’r symptomau’n cynnwys:
Mae rhagor o wybodaeth am iechyd meddwl a lles ar gael yn https://www.nhs.uk/conditions/stress-anxiety-depression/
Mae 5 tîm CAMHS arbenigol ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
Dwyrain |
Canol |
Gorllewin |
||
Tîm CAMHS Wrecsam
Canolfan Iechyd Plant Ysbyty Maelor Wrecsam LL13 7TD
03000 848227
|
Tîm CAMHS Sir y Fflint
Tŷ Catherine Gladstone Mancot Sir y Fflint CH5 2EP
03000 859152
|
Tîm CAMHS Sir Ddinbych
Ysbyty Brenhinol Alexandra Marine Drive Y Rhyl Sir Ddinbych LL18 3AS 03000 856023
|
Tîm CAMHS Conwy
Ystafell Mostyn Ysbyty Llandudno Ffordd yr Ysbyty Llandudno LL30 1LB
03000 851949 |
Tîm CAMHS Gwynedd ac Ynys Môn Talarfon Ffordd Caergybi Bangor LL57 2EE
03000 850037 |
Gweithredir ffonau: Dydd Llun i Ddydd Gwener 09:00-17:00
Mae Gwasanaeth Arbenigol Pwynt Mynediad Sengl CAMHS (CAMHS SPOA) yn adolygu'r holl geisiadau cyfeirio ac yn cynnig ymgynghoriad a chyngor dros y ffôn ar gyfer gweithwyr proffesiynol os oes pryder am les emosiynol neu iechyd meddwl plentyn neu berson ifanc. Mae egwyddorion y timau Pwyntiau Mynediad Sengl yn CAMHS yn cael eu cefnogi gan yr un canllawiau ledled Gogledd Cymru, ond gall y protocol a ddilynir gan Bwyntiau Mynediad Sengl unigol fod yn wahanol mewn timau lleol gan fod dulliau gwella gwasanaeth yn cael eu trio, a gall amrywiadau lleol arwain at weithio mewn ffyrdd gwahanol.
Bydd y wybodaeth a dderbynnir ar y ffurflen atgyfeirio a gyflwynir yn sail i unrhyw benderfyniad os oes angen ymateb ar frys.
Mae clinigwyr Pwyntiau Mynediad Sengl CAMHS ar gael rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Bydd angen gwneud atgyfeiriad newydd. Mae ceisiadau'n cael eu gwirio gan weithiwr proffesiynol arbenigol CAMHS i bennu a oes brys. Bydd gwybodaeth am unrhyw ofal arbenigol blaenorol gan CAMHS yn cael ei ystyried.
Os ydych chi / os oes aelod o'ch teulu eisoes yn gweld rhywun yn nhîm CAMHS, byddwn yn cysylltu â chi i adolygu'ch apwyntiadau yng ngoleuni Covid-19. Gyda'n gilydd byddwn yn cytuno ar ffordd o weithredu - apwyntiadau'n parhau dros y ffôn, defnyddio cyfarfodydd rhithiol fel Skype, defnyddio e-bost i gadw mewn cysylltiad, neu gynnal yr apwyntiadau wyneb yn wyneb. Efallai y bydd yn well gennych chi a'ch teulu weld sut mae pethau'n mynd am y tro, a dychwelyd atom yn nes ymlaen os oes angen. Os penderfynir trefnu ymweliadau wyneb yn wyneb byddant yn wahanol i’r arfer, yn unol â chyngor y llywodraeth ar ymbellhau cymdeithasol a defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE).
Mae'r llyfrau gwaith canlynol yn darparu cyngor cefnogol defnyddiol, yn enwedig yn ystod pandemig Covid-19. Mae pecyn ar gyfer plant a fersiwn ar wahân ar gyfer rhieni / gofalwyr. Maent hefyd yn cynnwys rhestr o wefannau a llinell gymorth a allai gynnig rhywfaint o help a chefnogaeth.