Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfodydd

Cyfarfod dyddiol pobl ifanc

Mae'r holl bobl ifanc a'r staff yn cyfarfod ddwywaith y dydd. Dyma lle byddwch chi'n darganfod:

  • y staff sydd ar ddyletswydd
  • cynllunio gweithgareddau
  • cynllunio sesiynau

Dyma eich cyfle i ofyn am gefnogaeth ac i gefnogi pobl ifanc eraill. Mae hwn hefyd yn gyfle i chi godi pryderon gyda pherson ifanc arall os yw wedi ymddwyn mewn ffordd sy'n amhriodol yn eich barn chi ac y gallant wneud yr un peth gyda'r nod o unioni pethau rhyngoch chi'ch dau. Disgwylir i bawb fynychu'r cyfarfodydd hyn.

Cynnydd a Chynllunio (P&P)

Cynhelir cyfarfod Cynnydd a Chynllunio bob pythefnos. Bydd y gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â'ch gofal yn mynychu, gan gynnwys eich Tîm Nyrsio a'ch Cydlynydd Gofal Cymunedol, i wneud yn siŵr bod pawb ar y trywydd iawn ac yn deall eich cynnydd. Pwrpas y cyfarfod yw adolygu’r pythefnos diwethaf ac yna gosodir cynlluniau a nodau ar eich cyfer ar gyfer y pythefnos dilynol o Mae’n bwysig i ni eich bod yn cael clywed eich lleisiau yn y cyfarfod hwn a byddwch yn cael dewis i mynychu os dymunwch. Gallwch gyfrannu gydag unrhyw gwestiynau neu nodau yr hoffech eu cyflawni dros y pythefnos nesaf a gwahoddir barn eich rhieni a/neu ofalwyr hefyd i gyfrannu a gofyn cwestiynau.

Byddwn yn dangos eich crynodeb P&P i chi. Mae'n bwysig eich bod yn cyfrannu gydag unrhyw gwestiynau neu nodau yr hoffech eu cyflawni am y pythefnos nesaf. Mae barn eich rhieni a/neu ofalwyr yn bwysig a byddant yn cael eu gwahodd i gyfrannu a gofyn cwestiynau.

Cyfarfodydd adolygu

Byddwch yn cael adolygiad bob 4 i 6 wythnos i drafod sut mae eich triniaeth yn mynd, eich cynnydd mewn addysg a sut mae pethau gartref.

Bydd gennych ddewis i fynychu ynghyd â:

  • eich rhieni a/neu ofalwyr
  • aelodau o'ch tîm cymunedol
  • eich tîm triniaeth NWAS (gan gynnwys addysg)
  • eich gweithiwr cymdeithasol (os oes gennych chi un)
  • eiriolwr os gofynnir amdano

Mae hwn yn gyfle pwysig i chi i gyd gwrdd â'ch tîm i gynllunio a thrafod eich cynnydd a'ch dyfodol. Bydd trafodaethau ar eich cynnydd yn cael eu cynnal gyda'ch tîm cymorth cymunedol a'r hyn sydd angen ei wneud i wneud eich rhyddhau'n llwyddiannus.