Os nad yw’r teclyn cymorth clyw i'w weld yn gweithio, neu nad ydych chi’n clywed yn dda, rhowch gynnig ar y canlynol i weld a oes modd datrys y broblem:
Os yw’r teclyn cymorth clyw yn chwibannu, gwichian neu fysian, pan fyddwch yn ei wisgo:
Os ydych yn parhau i gael problemau ar ôl gwirio eich teclyn cymorth clyw, cysylltwch â'r Adran Awdioleg.
Gwasanaethau Post ar Gyfer Atgyweirio Cymhorthion Clyw a Batris
Os na allwch fynychu’r Clinig Mynediad Agored yn Wrecsam, neu na allwch aros am apwyntiad, mae gwasanaeth drwy'r post ar gael. Os ydych yn bwriadu anfon eich cymhorthydd clyw atom i’w atgyweirio, dylech fynd â’ch pecyn i’r Swyddfa Post i’w bwyso.Nid yw stamp dosbarth 1af neu 2il ddosbarth cyffredin yn ddigonol. Ni wnaiff y Post Brenhinol ddosbarthu eitemau heb dâl cywir a bydd yn arwain at oedi.
Sicrhewch eich bod yn anfon y canlynol atom:
eich cymhorthydd/cymorthyddion clyw
eich cerdyn cofnod batri
esboniad byr am y broblem
Peidiwch ag anfon y canlynol atom:
eich ffolder gwybodaeth glas
batris gwag
Angen Batris?
Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i ofyn am fatris a thiwbiau newydd ar gyfer eich teclyn cymorth clyw