Neidio i'r prif gynnwy

Canfod Atebion Cyffredinol a Chynnal a Chadw

Os nad yw’r teclyn cymorth clyw i'w weld yn gweithio, neu nad ydych chi’n clywed yn dda, rhowch gynnig ar y canlynol i weld a oes modd datrys y broblem:

  • Gwiriwch fod y batri yn ei le yn iawn
  • Gosodwch fatri newydd
  • Gwiriwch nad yw’r mowld clust yn llawn cwyr
  • Gwiriwch am ddefnynnau bach o leithder yn y tiwbiau
  • Gwiriwch nad yw’r tiwb wedi twistio, gwasgu neu â hollt
  • Os oes rheolydd sain ar eich teclyn cymorth clyw, gwiriwch ei fod ar yr uchder cywir
  • Os oes gan eich teclyn cymorth clyw fotwm/swits rhaglen, efallai ei fod yn y lleoliad anghywir
  • Diffoddwch y teclyn cymorth clyw a’i roi yn ôl ymlaen, neu trïwch wasgu’r botwm

Os yw’r teclyn cymorth clyw yn chwibannu, gwichian neu fysian, pan fyddwch yn ei wisgo:

  • Gwiriwch fod y mowld yn eich clust yn gywir
  • Efallai eich bod â gormodedd o gwyr yn eich clustiau, gofynnwch i’ch meddyg teulu wirio eich clustiau
  • Os yw’n bysian, ac mae gennych raglen Telecoil, gwiriwch nad ydych ar y gosodiad hwn

Os ydych yn parhau i gael problemau ar ôl gwirio eich teclyn cymorth clyw, cysylltwch â'r Adran Awdioleg.  

Gwasanaethau Post ar Gyfer Atgyweirio Cymhorthion Clyw a Batris

Os na allwch fynychu’r Clinig Mynediad Agored yn Wrecsam, neu na allwch aros am apwyntiad, mae gwasanaeth drwy'r post ar gael. Os ydych yn bwriadu anfon eich cymhorthydd clyw atom i’w atgyweirio, dylech fynd â’ch pecyn i’r Swyddfa Post i’w bwyso.Nid yw stamp dosbarth 1af neu 2il ddosbarth cyffredin yn ddigonol.  Ni wnaiff y Post Brenhinol ddosbarthu eitemau heb dâl cywir a bydd yn arwain at oedi. 

Sicrhewch eich bod yn anfon y canlynol atom:
eich cymhorthydd/cymorthyddion clyw
eich cerdyn cofnod batri
esboniad byr am y broblem 

Peidiwch ag anfon y canlynol atom:
eich ffolder gwybodaeth glas
batris gwag

 

Angen Batris?
Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i ofyn am fatris a thiwbiau newydd ar gyfer eich teclyn cymorth clyw