Ni all unedau mân anafiadau drin cleifion sydd yn cael poen yn y frest, problemau anadlu, poen yn yr abdomen, problemau sy'n gysylltiedig ag alcohol, gorddos cyffuriau, problemau gynaecoleg, cyflyrau iechyd sy'n cael eu trin fel arfer gan feddyg teulu fel mân salwch, problemau iechyd meddwl, problemau deintyddol, anaf i'r gwddf, anaf i'r frest neu'r cefn, neu wedi llewygu. Mewn argyfwng ffoniwch 999.
Os yw'r claf yn dal yn ansicr, mae'n well ffonio'r Uned Mân Anafiadau, i'n galluogi i roi'r claf yn y lle iawn, ar yr amser iawn, y tro cyntaf.
Mae'r Unedau Mân Anafiadau (MIUs) yn cael eu staffio gan ymarferwyr brys profiadol sy'n cael eu cefnogi gan gynorthwywyr gofal iechyd ac nid oes meddygon yn yr Unedau Mân Anafiadau. Bydd cleifion sy'n mynychu un o'r unedau yn cael eu hasesu a'u trin cyn gynted â phosibl. Os na ellir delio â'ch cyflwr yn yr Uned Mân Anafiadau, yna cewch eich cyfeirio at eich Meddyg Teulu neu'r Adran Achosion Brys agosaf neu at wasanaeth priodol arall. Rydym yn wasanaeth galw heibio, nid oes angen apwyntiad.
Mae anafiadau'n cynnwys:
- Mân anafiadau
- Mân anafiadau yn achos plant
- Brathiadau gan Bobl / Anifeiliaid
- Mân losgiadau
- Mân anafiadau i'r pen / rhwygo croen y pen
- Gwrthrychau estron yn y glust / trwyn
- Anafiadau i'r aelodau corfforol
- Mân anafiadau i’r llygaid
- Pigiadau gan drychfilod
Unedau Mân Anafiadau
Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi, Ynys Môn, LL65 2QA. Rhif Ffôn: 0300 085 0022
- Ar agor: o 8am tan 8pm, 7 diwrnod yr wythnos
- Amseroedd agor yr pelydr-X: Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 4pm
Ysbyty Dolgellau, Dolgellau, LL40 1NT. Rhif Ffôn: 03000 850 020
- Ar agor: 8am-5pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener ac eithrio Gwyliau'r Banc
Amseroedd agor yr uned pelydr-X: Dydd Llun o 1pm tan 4pm, Dydd Mawrth o 9am tan 12pm, Dydd Mercher o 12pm tan 4pm, Dydd Iau o 9am tan 4pm, Dydd Gwener o 9am tan 12pm
Ysbyty Bryn Beryl, Ffordd Caernarfon, Pwllheli, LL53 6TT. Rhif Ffôn: 03000 850014
- Ar agor: o 8am tan 8pm, 7 diwrnod yr wythnos
- Amseroedd agor yr uned pelydr-X: Dydd Llun - o 9:30am tan 4:30pm, Dydd Mawrth - o 9:30am tan 4:30pm, Dydd Mercher - o 9.30am tan 2:30pm, Dydd Iau - o 9:30am tan 2:30 pm, Dydd Gwener - o 9:30am tan 4:30pm
Ysbyty Alltwen, Tremadog, LL49 9AQ. Rhif Ffôn: 03000 850 027
- Oherwydd problemau staffio parhaus bydd MIU yn Alltwen yn aros ar gau dros nos o 8pm tan 31 Hydref 2025. Bydd y gwasanaethau yn aros ar agor yn ystod y dydd, 8am tan 8pm. Bydd y gwasanaeth arferol 8pm tan hanner nos yn dychwelyd ddydd Sadwrn 1 Tachwedd 2025 am 08am. Bydd y sefyllfa yn cael ei monitro'n rheolaidd yn ystod y cyfnod hwn ac os gellir ailddechrau'r gwasanaethau arferol yn gynharach byddwn yn eich hysbysu.
- Ar agor: 8:00am tan 8:00pm, 7 diwrnod yr wythnos.
- Amseroedd agor yr pelydr-X: Dydd Llun o 9:30am tan 4:30pm, Dydd Mawrth o 9:30am tan 4:30pm, Dydd Mercher o 9.30am tan 4:30pm, Dydd Iau o 9:30am tan 11:30am, Dydd Gwener o 9:30am tan 4:30pm
Ysbyty Tywyn, Ffordd Bryn Hyfryd, Tywyn, LL36 9HH. Rhif Ffôn: 03000 850 026
- Ar agor: o 8am tan 8pm, Dydd Llun i Dydd Gwener ac eithrio Gwyliau'r Banc
- Amseroedd agor yr pelydr-X: Dydd Iau o 9am tan 2.15pm
Ysbyty Cyffredinol Llandudno, Ffordd yr Ysbyty, Llandundo, Conwy, LL30 1LB. Rhif Ffôn: 03000 850 013
- Ar agor: o 8am tan 8pm, 7 diwrnod yr wythnos
- Amseroedd agor yr uned pelydr-X: Dydd Llun i ddydd Gwener, o 9am tan 5pm
Ysbyty Cymuned Dinbych, Ffordd Rhuthun, Dinbych, LL16 3ES. Rhif Ffôn: 03000 850 019
- Ar agor: o 8am tan 6pm, Dydd Llun i ddydd Gwener
- Amseroedd agor yr uned pelydr-X: (Rhif: 03000 855 774): Dydd Llun i ddydd Gwener, o 9:30am tan 12pm a 2pm tan 4:30pm
Ysbyty Treffynnon, Ffordd Halkyn, Treffynnon, CH8 7TZ. Rhif Ffôn: 03000 856 739
- Ar agor: o 8am tan 8pm, 7 diwrnod yr wythnos
Ysbyty Yr Wyddgrug, Llwyn Onn, Yr Wyddgrug, CH7 1XG. Rhif Ffôn: 03000 850 006
- Ar agor: o 8am tan 6pm, Dydd Llun i ddydd Sadwrn
- Amseroedd agor yr uned pelydr-X: Dydd Llun i ddydd Gwener, o 9am tan 4pm ac eithrio Gwyliau'r Banc