Neidio i'r prif gynnwy

Taith COVID-19 Claf

Ar ôl cyfnod o deimlo'n wael, dechreuais deimlo'n fyr o wynt ac yn eithaf gwael.  Roeddwn yn ymwybodol bod gennyf pob symptom fflag goch o Covid-19. Ar ddau achlysur gwahanol dros ddau ddiwrnod, roeddwn wedi ffonio fy Meddyg Teulu i ofyn am gyngor.  Gofynnwyd i mi hunan-ynysu a gorffwys a phetawn yn mynd yn waeth, yn enwedig gyda'r diffyg anadl, roedd angen i mi ffonio am ambiwlans.  Roeddwn yn parhau i deimlo'n wael iawn ac yn fyr o wynt nes oedd yn rhaid i mi ffonio am ambiwlans.  Cyrhaeddodd yr ambiwlans bron ar unwaith a chefais lawer o sicrwydd ganddynt, ond cynghorwyd nad oedd angen i mi fynd i'r ysbyty ac i barhau i hunan-ynysu.  Mewn llai na 24 awr, roeddwn wedi dirywio eto a ffoniwyd am ambiwlans.  Y tro hwn cefais fy nhrin â nebiwlydd yn y fan a'r lle ond unwaith eto, ni chefais fy nerbyn i'r ysbyty.  12 awr yn ddiweddarach roeddwn yn wael iawn, roeddwn yn ofnus a ffoniwyd am ambiwlans am y drydedd tro.  Y tro hwn cefais fy nerbyn i Ysbyty Maelor Wrecsam ar unwaith.

Roedd fy mhrofiad yn yr Adran Achosion Brys yn gyflym a phroffesiynol.  Roedd y staff yn dda am roi sicrwydd i mi gan fy mod yn wael iawn ac yn amlwg yn poeni gan fy mod wedi clywed pa mor ddrwg oedd Covid-19.  O fewn ychydig o oriau cefais belydr-x, profion gwaed a phrawf swab am Covid-19 cyn cael fy nerbyn i Ward Pantomime.

Yn ystod y 24 awr nesaf, es i'n wael iawn a chefais fy nhrosglwyddo i'r Uned Ddibyniaeth Fawr gan fod fy anadlu yn awr mewn perygl.  Cefais driniaeth gyda pheiriant arbennig o'r enw CPAP (Pwysedd Aer Positif Parhaus).  Roedd hyn yn cynnwys rhoi llif egnïol o ocsigen trwy fasg tynn dros yr wyneb.  "Rwy'n ystyrlon o'r ffaith er ei fod yn swnio'n amhleserus ac efallai ddim yn braf iawn, ond bu i’r peiriant hwn helpu i achub fy mywyd".

Cefais ofal clinigol a nyrsio da ofnadwy.  "Nid oedd dim nad oedd y nyrsys yn ei wneud i fy helpu i deimlo'n gyfforddus, ac aeth pob un ohonynt gam ymhellach i roi sicrwydd i mi a fy nghefnogi yn ystod fy amser ar yr Uned Ddibyniaeth Fawr".  Teimlais fod fy ngofal yn barchus ac urddasol bob amser a ni allaf ddiolch digon iddynt.

Cefais fy rhyddhau o'r Uned Ddibyniaeth Fawr ar ôl pum niwrnod i ward arall i wella ac es i adref dau ddiwrnod wedyn.  "Roeddwn wir yn teimlo nad oeddwn yn mynd i ddod adref, a'r gofal cefnogol a phroffesiynol arbennig a gefais tra'r oeddwn ar yr Uned Ddibyniaeth Fawr yw'r rheswm pam rwyf yn gallu gweld fy nheulu unwaith eto".

Mis Ebrill 2020