Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Cychwynnol: Cydweithrediad Gofal Cymunedol

Sefydlwyd yr Hwb Gofal Cymuned, dan arweiniad Dr Karen Sankey a Dewi Richards ym Myddin yr Iachawdwriaeth, Wrecsam ym mis Ionawr 2017.   Mae Dr Sankey wedi bod yn Feddyg Teulu ers 25 mlynedd, ond nid yw'n teimlo bod meddygaeth teulu modern yn "ffit i bwrpas", yn enwedig i grwpiau bregus, sy'n tueddu i "ddisgyn drwy'r craciau".  "Nid oes gennym unrhyw reolau, mae gennym ddrws agored, mynediad agored, dim apwyntiadau, gall unrhyw un ddod i mewn a chael cymorth."

Ar gyfartaledd mae'r hwb yn cefnogi 60 o bobl bob wythnos sy'n ddigartref, cysgu allan neu sydd â phroblemau iechyd meddwl neu'n camddefnyddio sylweddau.   Mae'r model 'Pawb yn yr Ystafell' yn dod â'r holl asiantaethau y bydd angen i bobl gael mynediad atynt ynghyd yn yr un ystafell, ar yr un pryd, bob wythnos.  Golyga hyn nad oes angen i bobl boeni am fethu apwyntiadau neu fod angen iddynt gael gwaith papur nad oes ganddynt fynediad ato.   Dywedodd rhai o gleientiaid yr hwb eu barn ar sut mae'n fanteisiol iddynt:

"Mae'n fy nghefnogi i gadw oddi ar y stwff...mae'n fy nghadw'n brysur.  Mae'n fy nghadw oddi ar y stryd, rwy'n ddigartref ond gwyddoch chi beth, rydym yn gofalu am  ein gilydd, fel teulu.  Rwy'n cysgu ar y stryd o flaen drws siop.   Mae'r ddynes sy'n agor y siop yn gwneud coffi i mi.  Mae dod yma yn fy helpu i beidio â theimlo cywilydd am y ffordd rwy'n byw yn awr.  Rwy'n cael cefnogaeth i fod yn agored am 'ddefnyddio'... Rwy'n un sy’n cael sbri nid adict, felly pan fyddaf yn rhoi'r gorau i gael sbri gallaf weithio, ac rwy'n weithiwr bach da iawn wyddoch chi.  Mae dod yma yn cadw'n sbarc i fynd".

"Bore ddydd Gwener yw diwrnod gorau'r wythnos".

"Agorodd fan hyn, nid wyf yn gwybod pryd, ond rwyf wedi bod yma ers hynny, mae'n wych i bobl fel fi.  Rwy'n adnabod y rhan fwyaf sydd yma.  Rydym yn gweld rhai newydd, nid oes ganddynt unrhyw syniad pwy sy'n dod i mewn, yn enwedig yn y gaeaf.   Beth bynnag, beth ydw i'n ei hoffi?  Rwy'n cael fy sgript, gweld y meddyg a'r bobl iechyd.  Weithiau mae'r bobl traed yma.  Cefais esgidiau a chot un wythnos hefyd.  Gallaf gael paned o de a thost.  Heddiw maent yn rhoi ffrwythau, iogwrt a phethau da i ni.  Gallaf sortio fy mudd-daliadau yma hefyd, gallent fod yn broblem felly mae'n gyfleus eu bod yma".

"Rwy'n dod yma gan fod popeth yn yr un lle, nid wyf yn cael fy marnu a gallaf gael y cymorth sydd ei angen arnaf.  Nid oes neb yn fy ngorfodi i wneud dim, fy mhenderfyniad i ydyw.  Rwy'n ymddiried ynddynt."

"Rwyf wedi bod yn lân ers 6 mis ond rwy'n dod yma i weld fy ffrindiau a'r Meddyg Teulu gan nad wyf wedi cael fy nghofrestru yn unman arall.  Gallwch gael cymorth pan mae ei angen arnoch yma".

 Nodau cyffredinol y Cydweithrediad Gofal Cymunedol yw:

  • Lleihau’r rhwystrau at wasanaethau cyhoeddus i'r rheiny sydd mewn argyfwng
  • Gwneud yn siŵr fod barn pobl yn cael ei glywed a'i barchu, gan ddeall eu hanghenion unigol
  • Dod â sefydliadau lleol sy'n cael eu gyrru yn gymdeithasol ynghyd, fel y gallent weithio yn fwy effeithiol
  • Lleihau'r galw ar wasanaethau cyhoeddus prif lif

Mis Tachwedd 2019