Mae Desg y Wasg yn cael ei staffio gan aelod o’r Tîm Cyfathrebu Corfforaethol o 9.00am tan 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Cysylltwch â ni cyn gynted ag sy'n bosib er mwyn i ni allu dod yn ôl atoch chi cyn gynted ag y gallwn ni.
Os bydd gan y cyfryngau unrhyw ymholiadau brys y tu allan i oriau, sy'n methu aros tan y diwrnod canlynol, cysylltwch â switsfwrdd yr ysbyty ar 01248 384 384 a gofynnwch am gael siarad â’r Rheolwr Ar-Alwad Arian, a fydd yn delio â’r ymholiad os bydd hynny'n briodol.
E-bost: bcuhbpressdesk@wales.nhs.uk
Rhif ffôn: 03000 840 008
Mae safleoedd ysbyty yn nalgylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn derbyn ceisiadau’n aml i ffilmio ar leoliad. Bydd pob cynnig yn cael ei ystyried a byddwn yn caniatáu ceisiadau os bydd hynny'n bosib neu'n briodol.
Chewch chi ddim cynnal cyfweliad, ffilmio neu dynnu lluniau ar eiddo’r Bwrdd Iechyd dan unrhyw amgylchiadau, heb ganiatâd penodol y Tîm Cyfathrebu Corfforaethol.
Os byddwch yn parhau i ffilmio neu dynnu lluniau heb ganiatâd, gofynnir i chi adael y safle.
Wrth wneud cais am wybodaeth am gyflwr claf, gwnewch yn siŵr bod gennych chi'r enw (gyda'r sillafiad cywir) ac unrhyw fanylion sy'n ymwneud â derbyn yr unigolyn i’r ysbyty. Yn anffodus, os na fyddwch yn gallu rhoi enw’r claf, nid oes modd i ni ddarparu gwybodaeth am gyflwr claf.
Cyfrinachedd Cleifion: Ni fyddwn yn rhoi unrhyw wybodaeth am glaf oni bai ein bod yn cael caniatâd gan yr unigolyn neu berthynas agosaf.
Cyfweliadau â Chleifion: Rhaid i bob cais i gyfweld â chleifion/tynnu lluniau o gleifion fynd drwy'r Tîm Cyfathrebu Corfforaethol.