Neidio i'r prif gynnwy

Diogelwch barbeciw

Barbeciw

Mae tywydd cynnes yn helpu bacteria i luosogi’n gyflymach ar adegau pan nad yw amodau hylendid bwyd cystal ag arfer. Er enghraifft, mae pobl yn newid eu harferion bwyta yn ystod misoedd yr haf, gan fwyta mwy o fwydydd oer a bwyd bwffe, bwyd sy’n cael ei adael allan am gyfnodau hirach o amser, a mwy o farbeciws.

Wrth ddefnyddio barbeciw i goginio cig, dylech sicrhau bod y cig yn chwilboeth drwyddo, nad oes dim o’r cig yn binc a bod y suddion yn glir. Os ydych chi’n coginio ar gyfer llawer o bobl, efallai y byddai’n ddoeth coginio’r cig yn y tŷ a’i orffen ar y barbeciw i gael y blas.

Cofiwch:

  • Dylai siarcol fod yn goch gydag arwyneb llwyd powdrog cyn i chi ddechrau coginio
  • Dylid dadmer bwyd wedi’i rewi yn llwyr cyn ei goginio.
  • Trowch y bwyd yn rheolaidd a’i symud o gwmpas y barbeciw er mwyn sicrhau ei fod yn coginio’n gyson.
  • Gwnewch yn siŵr bod canol y bwyd yn chwilboeth.
  • Peidiwch â chymryd yn ganiataol fod cig wedi’i goginio drwyddo os yw wedi llosgi ar y tu allan.
  • Mae’n bosibl i facteria ar fwyd sydd heb ei goginio halogi bwyd sydd wedi cael ei goginio. Gellir ei atal fel hyn:
  • Golchwch eich dwylo’n drylwyr bob amser ar ôl trin cig amrwd.
  • Defnyddiwch offer ar wahân ar gyfer cig amrwd a chig wedi’i goginio.
  • Peidiwch byth â rhoi bwyd wedi’i goginio ar blât neu arwyneb sydd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer cig amrwd.
  • Cadwch gig amrwd mewn cynhwysydd wedi’i selio ac oddi wrth fwydydd eraill sy’n barod i’w bwyta, fel rholiau bara a salad.
  • Peidiwch â rhoi cig amrwd ar y barbeciw wrth ymyl cig sydd wedi’i goginio neu ei rannol goginio.
  • Peidiwch ag ychwanegu saws neu farinâd at fwyd sydd wedi’i goginio os yw eisoes wedi cael ei ddefnyddio â chig amrwd.
  • Ni ddylid gadael bwydydd oer fel salad, dipiau, pwdinau, brechdanau, cigoedd wedi eu coginio na reis wedi’i goginio yn yr haul nac allan o’r oergell am fwy na dwy awr.

Diogelwch barbeciw

  • Cadwch fwced o ddŵr/tywod a neu bibell ddŵr gardd gerllaw bob amser, rhag ofn y bydd tân.
  • Coginiwch y bwyd ar farbeciw sydd mewn man agored ac ymhell oddi wrth ffensys, siediau, adeiladau, coed neu lwyni.
  • Dylai’r barbeciw fod ar arwyneb gwastad
  • Defnyddiwch ddigon o siarcol i orchuddio gwaelod y barbeciw at ddyfnder o tua 50mm (dwy fodfedd) yn unig
  • Cadwch blant, gemau ac anifeiliaid anwes ymhell o’r ardal goginio.

Rhagor o wybodaeth ac adnoddau